Noson Gymdeithasol Parti Camddwr

Noson o ganu yn Nhafarn y Bont, Bronant

gan Efan Williams

Cafwyd noson wrth ein boddau yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener 18 Tachwedd. Roedd tyrfa dda iawn wedi dod ynghyd i fwynhau’r canu a chafwyd noson (hwyr!) o fwynhau llymaid i dorri syched a chymdeithasu yng nghwmni ein ffrindiau a chefnogwyr lleol. Noswaith wirioneddol gwerth chweil.

Dechreuwyd y noson gyda’r parti yn canu cymysgedd o ffefrynnau o alawon gwerin, i emynau a chaneuon poblogaidd. Roedd y dafarn wedi darparu buffet blasus i’r parti ac roedd hen ddigon i fynd o amgylch pawb oedd wedi dod ynghyd – Mae’n sicr nad adawodd unrhyw un yn eisiau bwyd!

Cafwyd cyfle wedyn i’r bois gymysgu a chlebran gyda phawb oedd wedi dod, ac mor braf yw cael y cyfle i ddal i fyny gyda phawb ar ôl y cyfnodau clo. Mae bywyd o’r diwedd yn teimlo yn fwy “normal”.

Diolch yn fawr iawn i Dafarn y Bont am ddarparu lluniaeth a diolch o galon i bawb a ddaeth allan. Mae’r bois yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth bob amser.

Tan y tro nesaf!