O ddydd Mercher 27 Gorffennaf – dydd Llun 8 Awst, bydd system un-ffordd yn y dref yn Nhregaron i osgoi tagfeydd traffig ac i gludo pawb yn ddiogel i faes yr Eisteddfod. Bydd y traffig yn symud yn wrthglocwedd o Ffordd yr Orsaf ar yr A485 i Stryd y Capel ar y B4343 ac yna tua’r gogledd tuag at Ysgol Henry Richard, ac yn ôl tuag at yr A485.
Bydd hefyd gorchmynion clirffordd dros dro (temporary clearway orders):
Ar yr A485 tua’r de o’r bont dros Afon Brenig
Ar y B4343 tua’r de o Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron
Ar yr A485 tua’r gogledd o Siop Fferm Riverbank
Ar y B4343 ar Ffordd Dewi ger Ysbyty Cymunedol Tregaron
Ar Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan
Bydd cyfyngiad cyflymder o 20mya hefyd mewn lle yng nghanol y dref, ardaloedd cyfagos ac wrth agosáu at Faes yr Eisteddfod yn ystod y cyfnod hwn.
Wrth deithio i faes yr Eisteddfod, mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer ymwelwyr sy’n teithio o’r:
gogledd orllewin
gogledd ddwyrain
de ddwyrain a’r de orllewin
y dwyrain
(gwelir map uchod)
Bydd arwyddion clir i gyrraedd y meysydd parcio o bob cyfeiriad, gyda meysydd parcio bathodyn glas hefyd wedi’u marcio’n glir. Annogir trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus, i deithio ar gefn beic a’i adael yn ddiogel y tu allan i’r brif fynedfa neu i gerdded ar hyd y llwybr troed os yn bosib.