Merched y Wawr Tregaron

Cangen Merched y Wawr Tregaron yn Dathlu’r Aur

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Dathlu’r 50.

Braf oedd cael prynhawn i ddathlu hanner can mlynedd ers cychwyn Merched y Wawr yn Nhregaron.

Cafwyd te prynhawn yn y Neuadd Goffa a chafwyd cwmni rhai o’r swyddogion cyntaf o 1972/73 ynghyd â rhai o’r aelodau oedd yno ar y dechrau. Hyfryd oedd cael croesawu cyn aelodau a swyddogion, yn enwedig Mrs Mari Morgan a ddaeth nôl i ymuno gyda ni.

Torrwyd y gacen gan Mrs Megan Morris a Mrs Connie Owen. Braf oedd cael cwmni Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol MYW ynghyd ag Owenna Davies, Llywydd Rhanbarthol Ceredigion. Gwenllian Bulman Rees oedd yn gyfrifol am baratoi’r te blasus.

Cychwynnwyd trwy gydganu cân y mudiad gyda Jane Hughes yn cyfeilio. Diolchwyd i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y dathlu gan y Llywydd presennol, Catherine Hughes, i Elizabeth Jones a Delyth Rees am addurno’r llwyfan, y pwyllgor a’r swyddogion am yr holl drefniadau heb anghofio’r holl aelodau oedd yn bresennol. Ymlaen i’r 60!

Merched y Wawr