Ieuenctid lleol yn agor y Babell Lên

Agoriad Swyddogol y Babell Lên

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Agorwyd y Babell Lên bore ’ma gan ddisgyblion y Sir.

Perfformiodd disgyblion Ysgol Henry Richard y gerdd groeso. Ysgrifennwyd y gerdd gydag Eurig Salisbury a Hywel Griffiths ar ôl bod ar ymweliad ag afon Brefi.

Yma, cawson nhw ysbrydoliaeth i ysgrifennu cerdd am y tir ac ardal leol yr Eisteddfod. Rhai o’r llefydd sy’n cael eu henwi yn y gerdd yw Afon Brefi, Aberdauddwr, Pont Gogoyan, Craig Ifan, Nant y Rhysgog ac wrth gwrs, y Teifi.

“Ac fel taith y rhain i gyd,

I fan hyn fe lifa’r byd

A chario’r iaith o bedwar ban.

A’i holl amrywiaeth i’r un man.

 

Felly nawr mae’r wledd ar ddechrau,

Dewch i greu’r atgofion gorau,

Dim ots os daw y glaw a’r mwd,

Dewch bawb i mewn, mae’r lle ma’n gwd!”

Daeth merched blwyddyn 8 o ysgolion y Sir ymlaen wedyn i ganu cân hyfryd, Pelydrau, a gyfansoddwyd o dan arweiniad gyda Casi Wyn, Bardd Plant Cymru. Project o dan ofal Anwen Eleri a Menna Jones o’r Cyngor Sir.

Roedd yn Agoriad urddasol gyda naws ac awyrgylch lleol iawn. Roedd hi’n braf gweld y Babell Lên yn llawn dop!