Ydych chi’n hoffi Baileys? Ryseit Gwirod Hufennog.

Gan Mair James

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG_20221220_163436

Cynhwysion:

Cwpan o wisgi
Tun mawr o laeth cyddwysedig (condensed milk)
3 wy
Hanner peint o hufen sengl
2- 3 llwy de o goffi (wedi toddi mewn dŵr twym, wedi oeri)

Dull

  1. Chwisgwch yr wyau ac ychwanegwch y wisgi a’r llaeth cyddwysedig.
  2. Chwisgwch eto.
  3. Plygwch yr hufen i’r gymysgedd.
  4. Ychwanegwch y coffi.
  5. Rhidyllwch y cyfan cyn ei roi mewn potel.
  6. Mwynhewch dros y Nadolig!