Gorsedd Llanddewi Brefi

Aelodau’r Orsedd yn barod ar gyfer Steddfod!

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Myrddin ap Dafydd yr Archdderwydd yn arwain yr Orsedd

Yr Orsedd

IMG-20220708-WA0023

Pawb wrthi’n peintio.

Yr haul mas heno ar gyfer yr addurno a’r harddu.

Dwy o aelodau’r ddawns flodau.

Gwilym ap Prydderch o’r Llwyn yn barod amdani.

Defi o’r Llan

Cwpled o waith Dai Williams

IMG_20220708_204236

Dyfyniad allan o gerdd buddugol ein Prifardd ni – D.Lloyd Jenkins yn Eisteddfod 1944.

Pennill hyfryd am Ffynnol Dolgam

Pawb yn fishi!

Peintio, gwisgo, bwrw, tyllu!

Brwsho!

Pat yn peintio

Cael hoe fach ar ôl yr holl frwsio.

“Ma’ hwn fel dwy awr o gardio!”

Mae’r Orsedd yma… Yn Llanddewi Brefi’n barod ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2022 yn Nhregaron!

Mae’r aelodau Bwgan Brain wedi crynhoi yng nghanol y pentref ac yn dipyn o sioe yn eu lliwiau gwyrdd, glas a gwyn! Mae Myrddin ap Dafydd yma hefyd yn arwain ac mae ambell aelod o’r ddawns flodau wedi ymuno â nhw.

O gwmpas yr aelodau, mae darnau bach o farddoniaeth gan feirdd Llanddewi Brefi. Dyfyniadau bach ydyn nhw, nifer am y fro ei hun.

Enwau Aelodau Gorsedd Llanddewi Brefi yw:

Gwilym ap Prydderch o’r Llwyn

Pugh Pugh o’r Prysg

Gwyneth o’r Fflur

Maureen o’r Bont

Eirwen Sarn Helen

Cyril Sgoldy

Emyr Fychan o’r Brefi

Eilir Siôn

Efan ap Dafydd o Lanio

Pant

Defi o’r Llan

Mair Tanllan

Ynghyd â chreu arddangosfa o fwganod brain, heno, daeth cymuned Llanddewi Brefi at ei gilydd i harddu’r pentref. Brwsio, glanhau’r arwyddion, trasho, chwynnu, peintio meinciau, gosod baneri a chreu’r arddangosfa!

Mae’r pentref yn odidog.

Galwch draw i’r pentref i weld yr Orsedd ac i ddarllen barddoniaeth Llanddewi Brefi gan ein beirdd ni.