Ffair Nadolig Capel Bwlchgwynt

Dathlu’r Nadolig gyda chapel Tregaron.

Delyth Rees
gan Delyth Rees
received_5775191355875097-1
IMG-20221126-WA0001
received_682395939900847

Cynhaliwyd Ffair Nadolig Capel Bwlchgwynt yn y Neuadd Goffa ar ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd ac estynnwyd croeso i bawb gan y Bugail.

Dechreuwyd gyda’r plant yn canu dwy eitem gyda Catherine Hughes yn cyfeilio.

Croesawyd Llywydd y prynhawn sef Mr. Peredur Evans a’i wraig Delyth. Cafwyd anerchiad arbennig ganddo yn hel atgofion o’i amser ym Mwlchgwynt. Diolch iddo ef a Delyth am eu cwmni ac am ei rodd hael i’r coffrau. Cyflwynwyd anrheg iddo gan Anni Grug Lewis-Hughes un o blant yr Ysgol Sul.

Cafwyd prynhawn pleserus iawn o gymdeithasu a chyfle i fwynhau paned a mynd o amgylch y gwahanol stondinau. Diolch i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i sicrhau ffair lwyddiannus.