Braf bod nôl yn y Cwm

Eisteddfod Cwmystwyth 2022

gan Efan Williams

Cafodd Parti Camddwr noson i’w chofio ar nos Sadwrn 17eg o Fedi yn Eisteddfod Cwmystwyth. Roedd yn eisteddfod lwyddiannus iawn gyda’r parti yn fuddugol yng nghystadleuaeth y côr yn ogystal â’r partïon. Ardderchog fechgyn, rydych yn haeddu pob llwyddiant ar ôl eich holl waith caled! Carem gymryd y cyfle yma i ddiolch hefyd i Elisabeth James, ein cyfeilyddes, am ei gwasanaeth, ac yn enwedig am ei hamynedd!

Cafwyd noson hwyliog dros ben gyda digon o glebran a dal i fyny gyda thrigolion yr ardal, heb sôn am y croeso a’r te a chacs yng Nghaffi’r Cwm! Mae’n glod mawr i drigolion Cwmystwyth ac ardal Bro’r Mwyn eu bod yn parhau i gynnal eisteddfod o safon, yn parhau i ddenu cystadleuwyr o safon, ac yn fwy pwysig byth, yn cefnogi eu heisteddfod eu hunain gyda thyrfa niferus wedi dod ynghyd.

Llongyfarchiadau hefyd i Efan a Barry am rannu’r wobr 1af ar yr Her Unawd. Cydradd gyntaf- does yr un o’r ddau yn cofio hyn yn digwydd o’r blaen-  doedd dim byd i’w ddewis rhwng y ddau, mae’n amlwg! Roedd safon uchel ar y prif gystadlaethau canu a’r gyfeilyddes, Lona Phillips, Abermagwr, yn cael gwres ei thraed!

Llongyfarchiadau i drigolion yr ardal a hir oes i Eisteddfod Cwmystwyth. Daliwch ati i gefnogi ein heisteddfodau lleol – bara menyn cantorion Cymru. Bydd Parti Camddwr yn cefnogi Eisteddfod Swyddffynnon wrth iddi ddathlu 150 mlynedd, ac yna byddwn ym Mhontrhydfendigaid, yn ôl ein harfer. Welwn ni chi ar ein teithiau. Ymlaen!