Arddangosfa gelf yr artist Ogwyn Davies yng Nghanolfan y Celfyddydau

Dathlu Ogwyn yn Aberystwyth

gan Gwenllian Beynon
Enwau Caeau Gwyngoed 1999 a phoster yr arddangosfaFfion Rhys

Enwau Caeau Gwyngoed 1999 a phoster yr arddangosfa

Huw a Nia Caron yn yr arddangosfaFfion Rhys

Huw a Nia Caron yn yr arddangosfa

Ffion Rhys a Ceri Thomas yn agor yr arddangosfa

Ffion Rhys a Ceri Thomas yn agor yr arddangosfa

'Hen Wlad Fy Nhadau' yn y canolFfion Rhys

‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn y canol

Soar y Mynydd

Soar y Mynydd

Cerameg a '6721 - Trwydded i Ymgynnill' 1998 rhan o gyfres Datganoli a IEFfion Rhys

Cerameg a ‘6721 – Trwydded i Ymgynnill’ 1998 rhan o gyfres Datganoli a IE

Wal Gymreig '95Ffion Rhys

Wal Gymreig ’95

Nodyn gan Wyn Mel (Artist lleol adnabyddus arall)Ffion Rhys

Nodyn gan Wyn Mel (Artist lleol adnabyddus arall)

Yr arddangosfaFfion Rhys

Yr arddangosfa

Gwaith Ymchwil OgwynFfion Rhys

Gwaith Ymchwil Ogwyn

Ceri Thomas a'i llyfrFfion Rhys

Ceri Thomas a’i llyfr

Y Gwli Tregaron 1975 (Tud 74 yn y llyfr)

Y Gwli Tregaron 1975 (Tud 74 yn y llyfr)

Clawr Llyfr 'Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies' gan Ceri Thomas

Clawr Llyfr ‘Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies’ gan Ceri Thomas

Cerddes i mewn i arddangosfa o waith Ogwyn Davies yng Nghanolfan y Celfyddydau ar brynhawn yr agoriad ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 31 2022, a ges i fy syfrdanu gyda chymaint o waith oedd yn yr arddangosfa.

Roedd Ogwyn sicr yn ‘prolific’. Mae’r arddangosfa wedi ei gosod bron yn gronolegol ond hefyd yn thematig gyda gwahanol dechnegau yn agos i’w gilydd.

Wrth gwrs fe welwn y gweithiau adnabyddus ar welydd yr oriel, sef Hen Wlad fy Nhadau a Soar y Mynydd, ond hefyd ceir gweithiau llai adnabyddus ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld y rhain.

Yn yr arddangosfa ceir gweithiau o gasgliadau cyhoeddus fel y Llyfrgell Genedlaethol, ond hefyd mae nifer fawr wedi’u benthyg o gasgliadau preifat.

Medd merch Ogwyn, Nia Caron, ei bod hi a’i brawd Huw yn hapus iawn bod pobl yn dwli cael lle sbesial yn eu cartrefi i waith eu tad. Roedd Nia a Huw yn amlwg yn falch iawn o’r arddangosfa, ac yn ôl Ffion Rhys fuon nhw’n dau yn weithgar iawn wrth drefnu’r arddangosfa yma.

Dyma ddywedodd Ffion Rhys pan glywodd bod yr Eisteddfod yn dod i Dregaron:

Roeddwn yn teimlo yn gryf y dylai Ogwyn Davies gael arddangosfa fawr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron. Mae Ogwyn yn artist hynod o dalentog, a dwi’n credu efallai nad yw e wedi cael y gydnabyddiaeth roedd e’n haeddu yn ei fywyd. Roedd e’n artist oedd wastad yn arbrofi ac yn gwthio ei hun- ac rwy’n edmygu hyn yn fawr. Mae ei waith mwyaf poblogaidd – Soar Y Mynydd – yn hyfryd lle gwelir testun emynau yn llifo allan o’r capel i lenwi’r tir a’r awyr o’u gwmpas. Ond roedd llawer mwy i Ogwyn na hyn, ac rwy’n gobeithio fod yr arddangosfa yma sydd yn teithio drwy 90 mlynedd o’u fywyd yn dangos pa mor ddeinamig oedd Ogwyn.

Yn ogystal ag arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau roedd hefyd 2 ddarn o waith gan yr artist yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod Gendlaethol ar y cyd â Mary Lloyd Jones yn gynhyrchiol artistiaid lleol adnabyddus.

Agorwyd yr arddangosfa gan yr artist, awdur a darlithydd Ceri Thomas. Wrth agor yr arddangosfa cawsom ychydig o hanes bywyd a gwaith Ogwyn gan Ceri ac yn ogystal â dathlu celf a bywyd Ogwyn yn yr arddangosfa hon mae Ceri wedi bod yn gweithio gyda theulu’r artist i greu llyfr am ei waith a’i gyrfa.

Medd Ceri (dwi wedi cyfieithu o’r Saesneg)

Mae’r ymadroddiad ‘ars longa, vita brevis’ (mae celf yn hir, mae bywyd yn fyr) yn dod i’r meddwl wrth ystyried gyrfa Ogwyn.

Tua ugain mlynedd yn ôl gwnes gyfweld Ogwyn Davies yn ei gartref ger Tregaron wrth ymchwilio hanes Ysgol Gelf a Chrefft Abertawe roeddwn yn ymchwilio ac yn cyd-ysgrifennu bryd hynny. Ni chyrhaeddodd y cyfweliad y toriad terfynol ond yn fy monograff newydd ar yr artist Cymreig arwyddocaol hwn sydd wedi’i esgeuluso braidd, rwyf felly wedi gallu defnyddio’r wybodaeth yma ymhlith llawer o ddeunydd coll arall a ddarparwyd yn bennaf gan ei blant Huw a Nia.

Yr hyn a ddaw i’r amlwg yn y gyfrol, a’r arddangosfa adolygol sy’n cyd-fynd ag ef, yw gyrfa hir o gynhyrchu celf gymhleth ac amrywiol sy’n lleol ac yn rhyngwladol o ran ei chynnwys a’i ffurf ac sy’n siarad â Chymru a’r byd. Rwy’n annog pobl i fachu ar y cyfle i ymweld â’r arddangosfa yn Aberystwyth ac i ymweld â Thregaron er mwyn dod yn nes at ysbryd yr artist ac i gael hyd yn oed mwy allan o’r llyfr a’r arddangosfa.

Un o’r llunu yn y llyfr yw menyw yn cerdded lawr y gwli yn Nhregaron. Llun syml ond yn amlwg yn bwysig i’r artist ac yn sicr i’r ymdeimlad o le, ac fel y dywedodd Ceri gellir dod yn nes at ysbryd yr artist wrth edrych ar y llun ac ymweld â’r lleoliadau.

Roedd yn wreiddiol o Gwm Tawe ond gwnaeth ymgartrefu yn Nhregaron pan ddaeth i ddysgu Celf a chrefft yno yn y 50au a buodd yn byw ac yn gweithio fel artist yno gydol ei oes.

Roedd yn braf yn yr agoriad gweld nifer fawr o bobl leol i Dregaron yno ac rwyf yn meddwl bod hynny yn dangos bod Ogwyn yn artist ei filltir sgwâr – neu yn artist ei filltir sgwâr fabwysiedig.

Mae rhywbeth i bawb yn yr arddangosfa yma megis cof blentyn o athro celf, peintiadau o lefydd adnabyddus, celf am Gymru a bod yn Gymry, a chelf yr artist gwybodus nid yn unig am y defnyddiad a dewiswyd i greu lluniau ond yn ogystal am hanes celf boed yn gyfoes iddo ef neu o’r gorffennol.

Os nad ydych wedi gweld yr arddangosfa eto mae i’w gweld tan 12 Medi 2022 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Ac mae llyfr Bywyd a Gwaith yr Artist Ogwyn Davies / Ogwyn Davies – A Life in Art gan Ceri Thomas i’w gael yn ddwyieithog o’r Lolfa ac mewn siopau lyfrau.

Meddai Ffion

Diolch i Ceri Thomas, Amgueddfa Cymru, Oriel Môn, Llyfrgell Genedlaethol, MOMA Machynlleth ac i’r holl bobl wnaeth rhoi caniatâd i fenthyg gwaith o’u casgliadau preifat. Mae’n destament i gelfyddyd a charedigrwydd Ogwyn fod ei weithiau’n addurno waliau cymaint o amgueddfeydd, orielau a chartrefi ac yn cael eu gwir drysori. Yn bennaf rwy’n diolch i Nia a Huw, plant Ogwyn am ei help a pharodrwydd i wireddu’r arddangosfa yma.

Y darn nesa canlynol i’w ddarllen os chi eisiau mwy o wybodaeth am yr arddangosfa, ceir y wybodaeth yma o’r PANEL GWYBODAETH o Ganolfan y Celfyddydau.

Wedi’i eni yn 1925 yn Nhrebannos yng nghwm Tawe, gwnaeth Ogwyn ei gartref yma yng Ngheredigion a chreodd gelfyddyd oedd yn sôn am Gymru.

Mae’r arddangosfa hon yn archwilio ei daith artistig o 90 mlynedd. Yr hyn sy’n amlwg yma yw na safodd Ogwyn yn llonydd gyda’i gelfyddyd, nid taith linol nodweddiadol ydy o gynrychiolaeth i gelf haniaethol a chysyniadol, ond ymholiad cyson a gwelodd yn mynd yn ôl ac ymlaen yn rhwydd rhyngddynt i ddod o hyd i’r iaith weledol a’r defnydd o ddeunyddiau mwyaf priodol i gyfleu ei syniadau. Roedd ganddo ddiddordeb mewn defnyddiau ac roedd bob amser yn arbrofi gyda chyfryngau. Ar adegau dewisodd ddefnyddio iaith gynrychioliadol fwy ffurfiol gan ddefnyddio olew a gouache i bortreadu adeiladau fferm, peiriannau amaethyddol, golygfeydd stryd o dan eira a chapeli sy’n bortreadau barddonol ac atgofus o gefn gwlad Ceredigion. Mewn darnau tirwedd eraill defnyddiodd collage a chyfryngau cymysg i gyfuno testun a delwedd lle gwelwn eiriau emynau yn arllwys allan o gapeli ar y mynyddoedd, yr adeiladau a’r awyr.

Mae hefyd yn dewis defnyddio ‘stwff’ corfforol Cymru – ei phridd a’i llwch wedi’u cyfuno â glud i newid y ‘cynfas’ yn wal a ‘gwrthrych’ lle mae’n crafu mewn geiriau o emynau, caneuon, cerddi a lleisiau protest sy’n siarad am ryddid, perthyn ag hunaniaeth. Mae gwead arwyneb a phalet naturiol priddlyd yn chwarae rhan bwysig yma, gan efelychu gwrthrych a ddarganfyddir ar gloddiad archeolegol. Mae’n dangos meistrolaeth mewn caligraffi gan ddefnyddio gwahanol arddulliau o lythrennu i gyfleu awduron gwahanol – weithiau’n cyfeirio at hen hanes fel petai wedi’i gerfio gan saer maen ac ar adegau eraill yn dynwared graffiti a ysgrifennwyd gan brotestwyr neu garcharor mewn caethiwed. Mae’r ‘waliau’ hyn hefyd yn adleisio gwead arwyneb a phalet ei waith cerameg.

Yr hyn sy’n cysylltu’r holl waith â’i gilydd yw ei fod wedi portreadu’r ymdeimlad o le, ei phobl, ei diwylliant, ei hiaith, a’i ymdeimlad o berthyn iddi – hynny yw ei Gymru. Mae’n ddiddorol bod yr Ogwyn ifanc, ar ôl gwasanaethu fel sgwadron yn yr awyrlu yn India, yn Myanmar a Sri Lanca yn dychwelyd adref ac yn ailenwi cartref ei deulu yn ‘Rhyddid’. Mae’r ymgais yma am ryddid yn aros gyda Ogwyn gydol ei fywyd gyda datganoli i Gymru yn chwarae rhan bwysig yng nghyfeiriad ei waith.

Roedd yn edmygu a chael ei ddylanwadu gan waith artistiaid Cymreig fel Kyffin Williams, John Elwyn ac Ernest Zobole, yr artistiaid o Loegr a’r Alban Victor Passmore a William Scott (gyda’r ddau yn dewis ei waith ar gyfer arddangosfa celf weledol yr Eisteddfod Genedlaethol) gyda’i brif ddylanwad yn ei gymrawd Gatalaneg Tàpies.

Diolch i Ffion Rhys, Ceri Thomas ac i Ganolfan y Celfyddydau am eu parodrwydd i rannu gwybodaeth a lluniau.