Nadolig Llanddewi Brefi

Santa, carolau, goleuadau a gwin twym

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Rhodri a Celine. Enillwyr y tŷ â'r goleuadau Nadolig gorau.
Pawb yn mwynhau gwin a mins pei.
Ein coeden Nadolig bert.
Tu fas y Foelallt.
Teuluoedd yn prysuro i weld Santa.
Bois y Rhedyn yn canu.
Plant yn cael llun gyda'r dyn ei hun.
Co fe off!
Slej hardd Santa.

Neithiwr, nos Lun yr 20fed o Ragfyr, daeth cymuned Llanddewi Brefi ynghyd i ddathlu’r Ŵyl mewn noson Nadoligaidd, hyfryd.

Daeth Santa i’r pentref ar ei slej bendigedig. Dywedodd Santa,

“Mae’r ceirw yn cael hoe cyn y noson fawr Noswyl y Nadolig, felly dim hedfan bydda i heno, ond cael fy nhynnu gan y picyp.”

Dilynodd y trigolion y slej drwy’r pentref cyn crynhoi o gwmpas y goeden Nadolig i ganu a mwynhau gwin twym a mins pei. Codwyd y canu gan Fois y Rhedyn a chyhoeddodd Eirwen James, cadeirydd y Cyngor Cymuned, enillwyr y gystadleuaeth fawr.

Enillwyr y gystadleuaeth Goleuadau Nadolig, a’r tŷ sydd wedi’i addurno orau eleni yw cartref Rhodri a Celine. Mae’r tŷ yn werth ei weld yn y nos, yn goleuo’n hardd. Llongyfarchiadau mawr i chi am ennill hamper o fwydydd yn rhoddedig gan y Cyngor Cymuned.

Nadolig llawen i bawb!