Gole Corff yn ardal Ffair Rhos

Stori i godi gwallt eich pen ar noson Calan Gaeaf

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

(Hanes gan Mary Thomas, Ffair Rhos, 1905-83)

Mae hen gred yng Nghymru ei bod hi’n bosib gweld gole corff (cannwyll gorff / toili) person cyn iddyn nhw farw! Gole bach tua maint cannwyll yw’r gole yma, yn hedfan drwy’r awyr o’ch blaen, ar ôl gadael y corff marw. Yn ôl Mary Thomas, “wi’n credu mai cannwyll go fach yw’r gole os bydde’n blentyn, o’dd hi’n fwy o seis os bydde dyn.” Roedd Tad-cu Mary Thomas, Tomos Jones, yn gweld gole corff yn aml.

Gwelodd ole corff ei wraig yn mynd allan drwy ddrws yr ystafell wely, y diwrnod cyn iddi farw! Gwelodd hithau’r gole hefyd, gan holi, “Wyt ti’n gweld y gole ’na yn mynd mas trwy’r drws, Tomos?”

Yna un noson, blynyddoedd yn ddiweddarach, roedd Tomos yn siarad gyda’i ferch y tu allan i’w tyddyn.

“Wyt ti’n gweld y gole corff ’na lawr fanna ar bwys y berth?” gofynnodd.

“Nagw i,” atebodd y ferch. “Wi’n gweld dim byd.”

“Mae e’n mynd lawr trwy’r ca’ ac yn mynd trwy’r bwlch nawr. Mae e’n mynd i’r tŷ ‘co fanco. Tŷ Newydd.”

O fewn cwpwl o ddiwrnodau, daeth y newyddion bod gwraig Tŷ Newydd wedi cael strôc, wedi cwympo wrth y tan, wedi marw ac wedi llosgi yn rhannol!  Dyna’r gole corff wedi rhoi’r rhybudd!

Mae fwy o straeon gan Mary Thomas i’w darllen yma gan gynnwys yr hanes am gwrdd ag angladd ei Mam ar yr hewl rhwng Ysbyty Ystwyth a Ffair Rhos.

Mae hanes difyr wedi’i gofnodi gan Cassie Davies (1898-1988) hefyd am Dafydd Morgan, Pant-y-craf, yn cael ei wasgu i’r clawdd gan angladd ar yr hewl. Cliciwch yma i wrando.