Un o sêr Lledrod ac un o leisiau mwyaf cyfarwydd Radio Cymru fydd yn gwmni i Elin Fflur ym mhennod nesaf Sgwrs Dan y Lloer nos Lun yma 29 Mawrth am 8.25 yr hwyr.
Gyda thanllwyth o dân a’r sêr yn gwmni bydd Geraint yn trafod darlledu, panto, petrol, sbectol, ei fagwraeth, a’i hoffter o bobl – ac yn rhannu ambell i gyfrinach yr un pryd.
“Dwi’n dal i fynd yn nyrfys, tua 10 munud cyn i’r rhaglen radio ddechrau bob nos, yr eiliadau cyntaf yna – ond unwaith fyddai wedi dechre, wi’n iawn.” meddai Geraint.
Ag yntau’n darlledu ei raglen o’i gartref erbyn hyn, does dim amheuaeth fod Geraint yn mwynhau ei waith i’r byw.
Roedd Radio Ceredigion yn dipyn o drobwynt i yrfa Geraint, er nad yw’n dod o deulu cyhoeddus iawn meddai.
“Doedd Dad ddim yn ddyn oedd yn dweud gormod, Mam oedd y bos, ond doedden nhw ddim yn bobl cyhoeddus o gwbl. Ro’n i’n blentyn swil, ac mae’n rhyfedd mod i nawr yn gwneud be wi’n gwneud!”
“Wy’n cofio gwirfoddoli gyda Radio Ceredigion a’r cyfan ro’n i eisiau gwneud oedd rhedeg y peiriannau. O dipyn i beth roedd rhaid i fi gyflwyno ambell i gân, ac fel hynna ddechreuodd pethe. Fe gwmpes i mewn cariad gyda’r job. Roedd Radio Ceredigion yn brofiad hollol ffantastig.”
Bu’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Lledrod ers yn ifanc, a chawn glywed yn y rhaglen sut mae’r mudiad wedi chwarae rôl allweddol ym meithrin ei hyder i ganfod ei lais:
“Oeddet ti’n gorfod cymryd rhan yn Steddfod fach Lledrod pan yn fach; 5, 6 oed bryd hynny, ond dim cystadlu mwy na hynny. A gwneud dim byd cyhoeddus nes dechrau’r Ffermwyr Ifanc. Wy’n cofio dechrau cystadlu ar y siarad cyhoeddus; wel, ofnadwy – sefyll o flân cynulleidfa, ond wrth gwrs o’t ti’n dysgu’n doeddet ti? O’dd un peth yn arwain at y llall; dramâu, pantomeims”.
Ac hyd heddiw, mae’r mudiad mor agos at ei galon ag erioed. Yn 2017 fe’i etholwyd yn Llywydd Cenedlaethol ar y Ffermwyr Ifanc:
“Roedd yn sioc fawr. Bydden i byth wedi meddwl byddwn i, o’dd yn mynd i Glwb Ffermwyr Ifanc Lledrod, yn dod yn Lywydd Cenedlaethol ar y mudiad, ac ma’n bleser bod. Mae e’n fudiad amhrisiadwy yng nghefn gwlad. Mae e’n rhywbeth sydd ddim yn cael cweit digon o gydnabyddiaeth yn aml iawn, am bod e’ di bod yna erioed. Mae’n rywbeth y’n ni ‘di tyfu lan ‘da.”
Y bobl sy’n bwysig i Geraint ar ddiwedd y dydd, ac mae’n cael galwadau ffôn adref yn aml gan ei wrandawyr ffyddlon.
“Mae na bobl yn dweud wrthai yn aml ‘Geraint Lloyd ni’n gwrando arnat ti yn y gwely bob nos’.”
“Mae’n siŵr mod i’n hela pawb i gysgu!”
Gwyliwch Sgwrs Dan y Lloer, nos Lun 29 Mawrth am 8.25 yr hwyr ar S4C