Doctor, Doctor

Wrth i Feddygfa Tregaron ddechrau brechu yn erbyn COVID-19 aeth Caron360 i sgwrsio gyda Dr James.

Gwion James
gan Gwion James

Sut mae COVID-19 wedi effeithio ar Feddygfa Tregaron?

Fel pawb, mae’r feddygfa wedi gorfod addasu ei ffordd o weithredu. Mae’r feddygfa wedi bod yn cynnal gwasanaeth dros y ffôn, galwadau fideo a thrwy e-bost. Pwrpas y drefn newydd yw lleihau’r cyswllt wyneb yn wyneb gyda’r claf. Mae hyn yn cynnig dull mwy effeithlon i’r feddygfa ond yn groes i bwysigrwydd cyfarfod wyneb yn wyneb y meddyg a’r claf. Mae’r staff wedi gorfod addasu hefyd trwy sicrhau trefn newydd o ran nifer y staff yn y feddygfa ar yr un pryd a chadw pellter cymdeithasol.

Oherwydd lleoliad gwledig Tregaron a phoblogaeth wasgaredig mae’r nifer o achosion COVID-19 i’r feddygfa weld dros y ddau gyfnod clo yn gymharol fach- diolch byth. 

Mae holl gleifion dros 80 oed y feddygfa wedi cael eu brechu erbyn hyn. Sut deimlad oedd cael dechrau brechu?

Roedd hi’n rhyddhad enfawr ac yn brofiad emosiynol i’r cleifion ac i’r staff. Roedd hi’n bleser i weld y cleifion mor hapus yn dod am eu brechlyn- roedd rhai ohonynt ddim wedi gadael eu cartrefi ers mis Mawrth diwetha’. Mae holl gleifion dros 80 oed y feddygfa-tua 250 i gyd wedi cael cynnig brechiad erbyn hyn.

Nawr fod y brechu wedi dechrau, yn naturiol mae holl gleifion Tregaron yn awyddus i wybod pryd bydd eu brechiad nhw. Beth yw’r camau nesaf?

Mae’r feddygfa yn dilyn y targedau Cenedlaethol sef brechu pawb dros 70 ac unigolion bregus iawn erbyn canol Mis Chwefror. Yn dilyn hyn, y targed nesa’ yw brechu pawb dros 50 oed erbyn mis Ebrill. Mae’n sefyllfa ddi-gynsail sy’n newid yn ddyddiol felly mae’n anodd iawn i ragweld gydag unrhyw sicrwydd yn bellach ar hyn o bryd.

Beth yw’r heriau i’r broses frechu yn lleol?

Mae cyfyngiadau o ran staff sy’n gymwys i frechu. Rydym wedi hyfforddi ein cynorthwywyr iechyd i frechu er mwyn diwallu’r angen. Hefyd wrth gwrs, mae cyflenwad y brechlyn yn heriol. Dim ond y brechlyn Oxford-AstraZeneca rydym yn gallu defnyddio, ac rydym yn cydwethio gyda meddygfeydd lleol i rannu cyflenwad fel bod angen.

Mae ystadegau’r BBC yn awgrymu fod Cymru yn bell tu ôl i Loegr yn y broses frechu, ac mae beirinadaeth o Lywodraeth Cymru, ydych chi’n cytuno gyda hyn?

Dwi ddim yn credu fod Cymru yn bell tu ôl i Loegr. Mae poblogaeth Cymru yn fwy eang felly mae mwy o waith dosbarthu. Er enghraifft, mae’n haws ac yn gynt i frechu 1,000 o bobl mewn dinas fawr na mewn awdurdod fel Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Dyw’r wasg ddim yn helpu neb trwy wneud storiau mawr sy’n cymharu y lefel o frechu rhwng ardaloedd.

Ni’n clywed am gynlluniau brechu 24 awr y dydd yn Lloegr, ydyn ni’n debygol o weld rhywbeth tebyg yn lleol?

Rydym yn adolygu ein cynlluniau brechu yn gyson er mwyn gwneud yn ŵsir ein bod yn cyrraedd pawb mor gynted â phosib. Dydw i ddim yn credu bydd angen cynnal y fath wasanaeth yn lleol.

Mae pobl wedi bod yn clapio (ac yn canu!) ar ben drws ers misoedd mewn cefnogaeth i staff y gwasanaeth iechyd. Yn ogystal â dilyn canllawiau’r Llywodraeth, oes rhywbeth ymarferol gall y cyhoedd wneud i helpu’r gwasanaeth iechyd?

Y peth pwysicaf yw mynd i gael eich brechu pan ddaw’r cyfle. Mae’r brechiad wedi cael ei brofi’n helaeth ac mae’n ddiogel i’r cleifion.

Hefyd mae rhai cyfleoedd yn ein safleoedd brechu i wirfoddolwyr. Rydym yn ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr yn Nhregaron cyn belled, ac wrth gwrs i’r Ganolfan Hamdden am gynnig yr adeilad am ddim.

Sut ydych chi’n rhagweld y sefyllfa COVID-19 yn lleol erbyn 1af o Orffennaf?

Yr unig sicrwydd yw bydd lot fawr os nad y mwyafrif o gleifion y feddygfa wedi cael eu brechu. Gobeithio bydd y cyfyngiadau cymdeithasol presennol wedi eu llacio a byddwn ni yn y feddygfa, gobeithio, yn gweld lot mwy o gleifion wyneb yn wyneb eto.

Mae siom yn lleol fod Cynllun Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron wedi ei atal. Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydych wedi bod yn ganolog i’r cynllun. Oes dyfodol i’r cynllun?

Mae’n drueni mawr fod y cynllun gwreiddiol wedi cael ei atal oherwydd roedd blynyddoedd o waith da wedi mynd iddo. Mae cynllun amgen ar raddfa lai yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau adnoddau meddygol gwell i gleifion Tregaron a’r Cylch.

 

Diolch o galon i Dr Sion James am rannu ei amser gyda Caron 360. Dilynwch Caron360 dros y misoedd nesa er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y rhaglen frechu yn lleol.

 

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.