Beth oedd ‘mlan ar sgwâr Tregaron nos Iau dwetha’?

Y cwestiwn oedd ar wefusau sawl un dydd Gwener!

gan Elliw Dafydd

Welsoch chi’r goleuadau? Glywsoch chi’r sŵn byddarol? Welsoch chi’r bobol yn dawnsio’n wyllt?

Pwy arall ond y ffermwyr ifanc! Bu aelodau’r ffermwyr ifanc yn brysur yn ffilmio eitem ar gyfer Panto Nadolig CFfI Cymru fydd yn cael ei dangos ar S4C noson Galan am 8yh.

Byddwn ni’n ffilmio’r panto ar y 10fed a’r 11eg o Ragfyr ym Mhafiliwn Bont.

Beth am fod yn rhan o’r gynulleidfa? Mynnwch eich tocyn drwy ddilyn y ddolen isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/pantomeim-cffi-cymru-ar-s4c-wales-yfc-panto-on-s4c-tickets-220535897807?fbclid=IwAR3Hh_KRPCYJQood_b7MxtdAzacvEYquS3tFVLAd3B9dyHAZwL9VGA_e1Rc