Pwt o Hanes Rownd Laeth Penybont
Hen arferiad yw dosbarthu a gwerthu llaeth lleol, ffres. Mae’r ddelwedd o ddyn llaeth yn ei got wen yn mynd â’r poteli gwydr o ddrws i ddrws yn eiconig, a doedd Tregaron ddim yn wahanol.
Mae John Lewis, Bryncelyn (Penybont gynt) yn cofio mynd yn blentyn gyda’r diweddar Ned Hughes, un o weision Penybont, mewn poni a thrap i ddelifro llaeth i Dregaron. (tua 80 mlynedd yn nôl cofiwch!) Y pris yr adeg hynny oedd ‘grot,’ sef 4c yn yr hen arian.
Daeth hynny i ben yn niwedd y 40au ac ail ddechreuwyd y busnes yn y 50au cynnar. Ym Mhenybont yn y cyfnod cynnar, roedden nhw’n cadw tua 30 o dda byrgorn (shorthorns), ond wrth i’r galw am laeth gynyddu, datblygwyd y brîd a chynyddwyd y stoc.
Meddai John: “Rwy’n cofio fy nhad yn mynd off i Gloucester i brynu tarw Friesian er mwyn croesi’r fuches shorthorn ag ef. Roedd y lloi yn dod mas yn blue-gray ac yn cynhyrchu mwy o laeth. Gydag amser, daeth y Friesians i gymryd drosto wrth y byrgorn.”
Byddai Rownd Laeth Penybont yn dosbarthu i Dregaron bob diwrnod yr wythnos, gan gynnwys dydd Nadolig. Byddai’r godro yn dechrau am 6yb a byddai John a’i fan fach A40 yn cyrraedd Tregaron erbyn 8yb. Llaeth ffres go iawn! Roedd y gwaith o lenwi’r poteli yn cael ei wneud yn y nos dros fisoedd y gaeaf ac yn y bore dros yr haf. Byddai’r llaeth yn mynd o’r fuwch i’r botel yn syth, llaeth amrwd heb ei basteureiddio o gwbwl.
Byddai’r poteli’n amrywio mewn meintiau – peints, cwarts, a hanner peints. Tops cardfwrdd oedd i’r poteli yn wreiddiol cyn troi at ‘seal caps’ metel. Wedyn datblygu i gynnwys cartons cardfwrdd hefyd. Roedd y rhain yn boblogaidd iawn gyda’r twristiaid gan eu bod yn gallu mynd â’r cartons adref gyda nhw, a gwerthwyd llawer yn Siop Rhydyronnen, sef y Spar heddiw.
“Ro’n i’n joio. Clebran da bach o bawb, te deg da hwn a’r llall wedyn. Byddai’r rownd yn hala rhyw 3 awr i gyd. Bydden i’n mynd lawr cyn belled ag Argoed Hall, mas i Dŷ Coed a byddai Dan, fy mrawd, yn gwneud y rownd i bentre Tynreithyn. Bydden i’n gwerthu rhwng 10 a 12 crêt bob dydd, a o’dd crêt yn dala 20 potel. Byddai’n dibynnu ar amser y flwyddyn cofia – bydden i’n gwerthu fwy yn yr haf.”
“Bydde dydd Sadwrn yn fishi iawn. Bydde’r rownd yn cymryd dwbwl yr amser i fi achos taw ar ddydd Sadwrn o’n i’n casglu’r arian. Bydde Eleri a Catherine (ei ferched) yn dod gyda fi i helpu gyda’r holl gnoco drws a chasglu’r arian. Ro’n i’n cadw cofnod yn y llyfr bach. Bydde peint yr adeg hynny yn tua 15 ceiniog. Os bydde rhywun ise extra rhyw ddiwrnod, bydden nhw’n gadael arian ar ben y botel wag a bydden i’n gw’bod wedyn bod ishe gadael fwy o laeth.”
Nid fferm Penybont yn unig oedd yn cynnig gwasanaeth o’r fath yn y cyfnod, roedd o leiaf 4 fferm yn darparu a dosbarthu llaeth o’u ffermydd yn y dref a’r ardal.
Daeth rownd laeth Penybont i ben yn 1981 ond mae John yn falch o weld bod llaeth ffres yn cael ei werthu unwaith eto yn Nhregaron gan Laeth Llanfair, gan fod teulu Llanfair Fach yn perthyn i deulu Penybont, gyda Dai Llanfair Fach yn ail-gefnder i John a Dan.
“Mae llaeth lleol yn llawer gwell. Mae e ar ben ford y gegin glatsh, o fewn oriau.” meddai.
Llaeth Llanfair
Fferm deuluol ydy Llanfair Fach sy’n godro 400 o dda Fresian x Jersi ac yn ffermio 800 erw. Gwerthu llaeth i gwmni First Milk, Hwlffordd mae’r busnes, ond yn ddiweddar, wedi mentro i fyd gwerthu llaeth yn lleol. Mae’r treilyr bach yn galw yn Nhregaron ddwywaith yr wythnos i werthu llaeth ac ysgytlaeth ffres. Partneriaeth rhwng y triawd – Dafydd, Laura a Guto Jones ydy Llaeth Llanfair.
Mae’n braf gweld yr hen arferiad o ddosbarthu llaeth ar ei newydd wedd. Dyma’r treilyr sy’n teithio o gwmpas y pedair ardal wahanol; Llanybydder, Tregaron, Llambed a Chwman, saith diwrnod yr wythnos.
Mae’r “Beudy” ym maes parcio’r Clwb Rygbi bob dydd Mawrth a Gwener rhwng 7.30yb a 7yh. Cewch litr o laeth am £1.10 a hanner am 60c.
Mae’r cwmni ifanc yn dilyn yr un drefn â hen gwmni Penybont – yn godro’n gynnar neu’r noson gynt ac yn dosbarthu’r llaeth yn syth i’r lleoliad dan sylw. Yr unig wahaniaeth erbyn heddiw yw bod y llaeth yn cael ei basteureiddio cyn gadael y fferm.
Fel gyda’r hen arferiad, mae’r manteision sydd i yfed llaeth lleol fel Llaeth Llanfair yn ddiddiwedd:
– Mae’r llaeth yn naturiol gyda’r hufen ar y top. Mae’n laeth cyflawn wedi’i basteureiddio’n araf ond dydy Llaeth Llanfair ddim yn homogeneiddio na safoni’r llaeth sy’n golygu bod y blas naturiol yn cael ei gadw.
– Ychydig iawn o “food miles” sydd yna ac mae’r llaeth ar gael o fewn oriau.
– Rydych chi’n gwybod yn union o le mae’r llaeth wedi dod.
– Poteli gwydr yn unig – yn lleihau defnydd diangen o blastig.
Meddai Laura Llanfair Fach, “Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych a’r adborth yn grêt. Mae nifer yn teimlo eu bod wedi mynd nôl i’r hen ddyddiau ac mor hapus eu bod nhw’n gallu prynu llaeth lleol. Ers cychwyn, rydyn ni wedi gwerthu 2 paled o boteli gwydr 1 litr. Mae’r ysgytlaeth wedi bod yn boblogaidd iawn a’r blas mwyaf poblogaidd yw mefus.”
Mae’r cwmni’n edrych i ddatblygu’n gyson – yn arbrofi gyda blasau ysgytlaeth, a’r newyddion diweddaraf yw y bydd ail beiriant gwerthu llaeth yn cael ei osod yn Siop Valley Services yn Llandysul.
Felly, er bod maint y botel wedi newid, y treilyr wedi cymryd lle’r dyn llaeth a’i fan, yr un yw’r egwyddor a’r pwrpas. Dod â llaeth lleol at y bobl leol. Da chi, cefnogwch y fenter gyffrous yma. Mae tinc y botel laeth wedi dychwelyd i’n bro.