Cael Babi yn ystod y Clo Mawr

Babi a Mami newydd sbon yn ystod Locdawn. Megan Jenkins sy’n rhannu ei phrofiadau mewn cyfweliad.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Diolch am gytuno i rannu dy stori gyda Caron360. Rwyt ti a dy bartner, Daniel yn byw yn Llanddewi Brefi, ac wedi cael babi bach, Penri Williams, yn ystod y pandemig yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i chi!

 

Felly, i ddechrau, cer a ni nôl i gyfnod dy feichiogrwydd. Beth oedd yn wahanol am y gofal oedd ar gael i ti o ganlyniad i’r feirws? 

Roeddwn yn lwcus iawn i ga’l mynychu apwyntiadau yn yr ysbyty gyda’r Fydwraig a chael sgans fel arfer. Ond er hynny doedd dim hawl gyda Daniel ddod i’r apwyntiadau felly fe wnaeth e golli allan ar gwpwl o sganiau olaf Penri. Oherwydd Covid doedd dim cyrsiau fel ’hypnobirthing’ na dosbarthiadau cyn enedigol (antenatal classes) i gael felly ni’n teimlo ein bod ni wedi colli mas ar lot cyn yr enedigaeth.

 

Beth am yr enedigaeth ei hun ‘te? Rhaid ei bod hi’n wahanol iawn i’r arfer? 

Penri yw’r plentyn cyntaf i ni, felly, fi ddim yn siŵr iawn beth yw’r ‘drefn arferol’ ond doedd dim hawl gyda Daniel ddod mewn i ward Gwenllian (y ward geni) tan fy mod i yn ‘established labour.’ Felly, ar ddiwrnod geni Penri roedd y bore yn un eithaf unig yn yr ysbyty gan ein bod ni (y mamau ‘to be’) yn cael ein rhoi mewn ystafell ochr ar ein pennau ein hunan, heb gwmni tan bod y ‘labour room’ yn barod. Tua amser cinio cafodd Daniel ddod mewn i’r ystafell a bod yn gwmni i mi tan fod Penri yn dod i’r byd. Cafodd Daniel aros gyda ni tan tua 5 awr ar ôl i Penri gael ei eni, wedyn roedd yn rhaid iddo adel yr ysbyty. Y diwrnod canlynol oedd y diwrnod fwya’ rhyfedd i fi, oherwydd roeddwn yn fam newydd, mewn ystafell ar fy mhen fy hunan trwy’r dydd a dim hawl cymysgu ag eraill oherwydd Covid na chael ymwelwyr. Doedd dim hawl gyda Daniel ddod mewn i’n gweld ni chwaith! Roedd yn ddiwrnod hir iawn wrth aros i fynd adre. Eto, wrth adael, doedd dim hawl gyda Daniel ddod nôl i’r ward i’n hôl, felly wnaeth e gwrdd â ni tu allan drws Ward Gwenllian, i ni gael mynd adref. Ond er holl gyfyngiadau yr ysbyty, fe gawson ni ofal arbennig gan holl staff Ward Gwenllian, ym Mronglais!

 

Felly ar ôl dod adref, beth oedd y sefyllfa o ran ymwelwyr / derbyn cymorth a chyngor yn y cyfnod cynnar yna, fel Mam newydd? 

Cefais ofal gwych gan y fydwraig gymunedol a oedd yn dod i’r tŷ i sgwrsio a ‘checko’ ar Penri a ni fel rhieni newydd. Roedd yn rhaid iddi wisgo’r holl PPE cyn iddi ddod mewn i’r tŷ ac roedd yn ofalus iawn. Oherwydd sefyllfa Covid a rheolau’r ‘Clo’ yng Nghymru, doedd dim hawl gan neb ymweld â’i gilydd, felly roeddem yn dilyn yr un rheolau â phawb arall yn ystod yr adeg yma. Ni chawson ni gysylltiad wyneb yn wyneb gyda’r ymwelydd iechyd tan fod Penri yn 2 fis oed, ond roeddwn yn gallu derbyn cyngor ar y ffôn.

 

Beth oedd y peth anoddaf am yr holl sefyllfa?  

Teulu a ffrindiau yn colli allan ar weld Penri. Torrodd hyn fy nghalon, yn gweld Mam yn dod i’r drws i weld Penri o bellter yn gwisgo masg, a ddim yn gallu cyffwrdd â fe na’ mynd yn agos iddo, gan ei bod dal yn gweithio yn ystod y Pandemig. Ar ôl sawl wythnos fe wnes i wneud y penderfyniad a dweud wrth Mam i ddod mewn i’r tŷ i gael cwtsh gyda’i ŵyr cyntaf. Cwrddodd Penri â’i hen fam-gu a hen dad-cu pan oedd dros 2 fis oed. I fod yn hollol onest, dim fel ‘na ro’n i wedi dychmygu’r teulu yn cwrdd â’n babi cyntaf. Mae rhai aelodau o’r teulu yn dal i aros i gwrdd â Penri o hyd gan eu bod yn byw mewn ardaloedd gwahanol.

 

Oes yna bethau cadarnhaol wedi bod o gwbwl?  

Rwy’n credu bod cael y cyfle i fod yn deulu bach, jyst Daniel, Penri a fi am y mis cyntaf wedi bod yn help, hynny yw, ni wedi cael amser i ddod i arfer â bod yn rhieni a chael amser i fwynhau Penri yn fabi bach.

 

Erbyn hyn mae Penri bach yn 20 wythnos oed, beth yw’r heriau erbyn hyn?  

Rwy’n credu taw’r her fwyaf yw bod Penri ddim yn arfer â phlant a phobl eraill. Mae’n fabi hapus iawn ond yn eitha’ nerfus wrth weld pobl newydd gan ei fod wedi bod adref gyda mi lot! Her hefyd i mi, fel mam newydd yw bod adref gyda babi bach newydd a ddim cael cyfle i gwrdd â mamau a babis eraill a fyddai yr un oedran â Penri. Dy’ ni ddim wedi gallu mynychu grwpiau babis gan eu bod nhw ar gau oherwydd Covid. Dydyn ni ddim wedi gallu defnyddio cyfleusterau lleol chwaith, sy’n drueni.

 

 


Oes ‘na rywbeth / bethau wedi dy helpu di i ymdopi yn ystod y cyfnod?  

Yn od iawn, rwy’n meddwl mai’r tywydd hyfryd ry’ ni wedi cael sydd wedi helpu ni dros y cyfnod oherwydd ein bod yn gallu mynd allan i gerdded bob dydd. Hefyd roedd cwpwl o aelodau’r teulu yn gallu gweld Penri allan yn yr ardd. Ry’ ni’n ddiolchgar ein bod ni wedi gallu mynd bant ar ‘staycation’ i Bendine i aros yn y garafán fel teulu, fel bod Penri yn gallu cael profiadau cyntaf tra ein bod ni’n gallu.

 

Beth fyddai dy gyngor i famau eraill sy’n feichiog ar hyn o bryd, ac yn gorfod wynebu cyfnod anodd fel ti a Daniel?

Nes i dreulio lot o amser yn meddwl a becso am bawb yn ein beirniadu ni fel teulu, am bwy a phryd oedd pobl yn cwrdd â Penri, ond yn y diwedd nes i feddwl ‘do what’s right for you’. I fod yn onest gyda chi, fi wedi torri ambell reol (Locdawn) ond mae ein hiechyd meddwl ni a dyfodol ein plant yn bwysig hefyd.

 

 

 

Cytuno’n llwyr Megan. Diolch i ti am dy onestrwydd ac am gytuno i rannu dy brofiadau gyda ni gyd. Rwy’n gwybod y bydd dy atebion yn taro tant gyda nifer o’r darllenwyr ac yn gysur i eraill sy’n wynebu profiad tebyg. Cofion cynnes at y tri ohonoch chi.

Dweud eich dweud