Bore Sadwrn, 21 Medi roedd criw o’r aelodau wedi casglu ar y Sgwâr gogyfer â’r Daith Ddirgel flynyddol. Fel arfer roedd pawb yn dyfalu ble fyddai’r trip yn mynd eleni! Bant a ni a mynd am Aberaeron a chael y stop gyntaf yn y Moody Cow. Cyfle i fwynhau paned a chacen ac ymweld â’r siop. I ddilyn, teithio i dref Aberteifi ac er gwaethaf y glaw cafwyd amser da yn siopa a chael cinio!
Nôl i’r bws ac ymlaen i Eglwys y Grog ym Mwnt. Erbyn hyn roedd yr haul yn gwenu a dyna hyfryd gweld yr eglwys fach hynafol yn ei gogoniant. Yn y tawelwch teimlwyd naws arbennig sydd yn y fangre yma ac i ychwanegu at y naws, canwyd emyn gyda Gwyneth Davies wrth yr organ. Eglwys fach sy’n llawn hanes ac mae’r lleoliad arfordirol yn syfrdanol.
Ble nesa? Wel, cyrraedd Tanygroes ac aros yn Nistyllfa Jin ‘In the Welsh Wind’. Busnes llwyddiannus sy’n cael ei redeg gan gwpwl ifanc a sefydlwyd ym 1918. Cafwyd cyfle i fynd o amgylch y labordy a gweld sut y gwnaed y jin a hefyd ymweld â’r ystafell chwisgi. Maent wedi ennill gwobrau lawer am eu cynnyrch gyda’r busnes yn mynd o nerth i nerth. Cafwyd cyfle i brofi’r gwahanol fathau o jin a hefyd prynu ambell botel fach!!
Erbyn nawr roedd yn amser swper a dyma dynnu fewn i’r Bryn a’r Bragdy ym mhentref Brynhoffnant. Bwyty sydd wedi ei adnewyddu ers bron i flwyddyn a hanner. Mwynhawyd pryd blasus o fwyd a dyma ddiweddglo hyfryd i ddiwrnod hwyliog iawn. Dyma’r gweithgaredd olaf i’r swyddogion a diolchwyd i Manon, Mags ac Yvonne am drefnu’r cyfan gan Ffion Medi. Diolch hefyd i Huw Davies am yrru ac am fod mor ofalus o bawb gydol y dydd.