Gwasanaeth Teuluol Nadolig

CAPEL BWLCHGWYNT

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Gwasanaeth Nadolig Teuluol

Prynhawn Sul, 17 Rhagfyr bu Gwasanaeth Nadolig Teuluol yn y capel. Croesawyd y gynulleidfa gan y Parchg. Carwyn Arthur. Cyflwynwyd yr emynau a’r darlleniadau gan yr ieuenctid canlynol – Annabelle Bulman, Gethin a Dafydd Bennett, Hallie Parkin, Mabli Dark, Lois Davies, Anni Grug Lewis-Hughes, Ianto James, Osian Jones, Owen Jones, Dutt Panchall ac Elin Williams

Cafwyd eitemau swynol gan blant Clwb yr Ysgol Sul a’r Clwb Ieuenctid o dan arweiniad Catherine Hughes ac eitem hyfryd gan deulu’r Bennett’s yn canu Carol y diweddar Brifardd Dai Lloyd Jenkins i gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Nerys.

Braf oedd gweld y pulpud a’r sêt fawr yn llawn o blant a phobl ifanc ar ddiwedd y gwasanaeth. Cawsom ein rhoi mewn awyrgylch Nadoligaidd trwy gydol y gwasanaeth i ddathlu gwir ystyr yr Ŵyl.

Diolchwyd i’r plant am wneud eu gwaith mor arbennig ac i’r rhieni am eu cefnogaeth gan y Bugail ac i athrawon yr Ysgol Sul a’r Clwb Plant am eu hymroddiad. Diolch hefyd i Alice Jones am gyfeilio.

Roedd y gwragedd yn garedig iawn wedi paratoi paned a mins peis i bawb a diolch iddynt am eu caredigrwydd yn flynyddol. Rhannnwyd siocledi i bawb a gymerodd ran ar ddiwedd y noson a dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.