Plant Ysgol Rhos Helyg yn Diolch!

Cwrdd Diolchgarwch Ysgol Rhos Helyg yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod

gan Efan Williams
1-1
11

Cynhaliwyd cwrdd diolchgarwch Ysgol Gynradd Rhos Helyg yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod ar ddydd Mercher 16 Hydref. Daeth tyrfa niferus ynghyd i fwynhau cyfraniadau safonol gan blant yr ysgol a neges bwrpasol gan y Parchedig Nicholas Bee.

Roedd yn brynhawn hyfryd o ganu a diolch am bopeth rydym yn ei dderbyn. Mae plant Ysgol Rhos Helyg yn ddiolchgar iawn am bopeth, ac roedd pawb yn ddiolchgar hefyd am y wledd o gawl, rôls a chaws a baratowyd ar gyfer pawb wedi’r oedfa gan Miss Menna Lewis.

Gwnaed casgliad hefyd yn ystod yr oedfa, a chasglwyd y swm teilwng o £279 at Ambiwlans Awyr Cymru, elusen rydyn ni yn ardal Lledrod yn ddiolchgar iawn amdani.

Dweud eich dweud