Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Yn y New Inn, Llanddewi Brefi, ar Nos Sadwrn, Tachwedd 30 daeth llawer o’r selogion ynghyd i gystadlu yn y Bencampwriaeth Dominos. Mae hon wedi bod yn gystadleuaeth ers cenedlaethau gydag unigolion yn ennill eu rownd a chystadlu tan mai dau yn unig oedd ar ôl yn y gêm derfynol.
Eleni Tom Odwyn ac Eirwen oedd yn y ffeinal a’r buddugwr oedd Tom, yn ennill tlws a set o Ddominos..
Mae hi mor bwysig cadw’r traddodiadau yma yng nghefn gwlad. Diolch i Yvonne am gynnal y gystadleuaeth.