Estynnwyd croeso cynnes i’r aelodau ar y 3ydd o Ionawr gan y Llywydd, Manon Wyn James. Dymunwyd yn dda i’r aelodau oedd yn anhwylus a chofiwyd am Heddwen Evans sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Croesawyd a chyflwynwyd y wraig wadd sef Anwen Butten a fu’n Rheolwraig Tîm Bowlio Cymru. Nyrs Arbenigol yw Anwen yn Adran Cancr y Pen a’r Gwddf, Ysbyty Glangwili wrth ei gwaith bob dydd.
Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei chwmni yn sôn am ei hanes ym myd bowlio. Dechreuodd y brwdfrydedd pan oedd yn gwylio ei mham mewn gêm Ryngwladol a dechrau chwarae yng Nghlwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan. Mae wedi bod yn bowlio ers yn ifanc iawn ac ym 1988 dewiswyd hi i chwarae i Dîm Cymru a bu’n gapten hefyd ar y tîm iau.
Mae’n un o athletwyr mwyaf profiadol Cymru ac wedi cynrychioli ei gwlad ym mhob Gêm y Gymanwlad ers 2002. Yn y gemau yn Birmingham ym 2022 dewiswyd hi i fod yn gapten ar Dîm Athletau Cymru a dyma’r chwaraewr bowlio cyntaf i dderbyn yr anrhydedd yma.
Soniodd fel y cafodd y fraint i chwarae ar draws y byd dros y blynyddoedd a chyfarfod â nifer fawr o chwaraewyr eraill yn y gwahanol wledydd. Enillodd lawer iawn o fedalau a thystysgrifau yn y cystadlaethau amrywiol.
Roedd yr arddangosfa hyfryd oedd o’n blaenau yn agoriad llygad a chafwyd cyfle i weld y medalau, y lluniau, ynghyd â chrys Cymru a hefyd y siaced a wisgwyd ganddi tra roedd yn arwain y tîm yn Birmingham. Dangosodd lun arbennig o gadair a oedd wedi ei gorchuddio gyda’r gwahanol grysau a dderbyniodd fel anrheg gan un o’i ffrindiau.
Soniodd fel y mae’n ddyledus iawn i’w mham am ei hannog i chwarae ac am ei chefnogaeth di-barhaus a hefyd i’w theulu cyfan am fod yn gefn iddi ar y daith. Roedd yn ddiolchgar hefyd i Glwb Bowlio Llambed am bob cyfle. Mae’r plant, Hari ac Alis hefyd yn chwarae ac yn llwyddiannus iawn.
Anrhydedd arall a ddaeth i’w rhan yn 2022 oedd cael ei hurddo i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn anffodus gan ei bod yn Birmingham ar y pryd nid oedd yn bosib iddi fynychu’r Eisteddfod yn Nhregaron ond fe’i hurddwyd ym Moduan y flwyddyn ganlynol.
Erbyn hyn mae wedi penderfynu ymddeol o chwarae a mynegodd ei balchder o gael cynrychioli ei gwlad, a fu’n brofiad bythgofiadwy! Mae’n edrych ymlaen yn awr i roi nôl i’r byd bowlio trwy hyfforddi chwaraewyr ifanc yn y gêm sy’n agos iawn at ei chalon.
Talwyd y diolchiadau gan Catherine gan ddiolch i Anwen am noson arbennig ac am rannu ei phrofiadau. Ymhyfrydwn fel cangen yn ei llwyddiant ysgubol a hefyd er yr holl lwyddiannau sydd wedi dod i’w rhan nid yw wedi anghofio ei gwreiddiau. Dymunwyd yn dda iddi i’r dyfodol.
Tynnwyd y raffl a Bet Jones oedd yr enillydd lwcus y mis hwn. Diolchwyd hefyd i Yvonne Jones ag aelodau Heol Dewi, Doldre a Llanddewi Brefi am baratoi paned a bisgedi ar y diwedd.