Noson Ddathlu 10 Ysgol Gynradd Rhos Helyg

Noson o ddathlu a mwynhau yng nghalon y gymuned

gan Efan Williams

Cynhaliwyd noson o ddathlu yn Nhafarn y Bont ar nos Wener 4 Hydref. Yr achlysur oedd pen-blwydd Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn 10 mlwydd oed. Dathlu oedran yr ysgol ffederal ar ei gwedd bresennol oedd pwrpas y noson hon, ac er bod y ffederasiwn mewn gwirionedd yn 12 mlwydd oed, oherwydd Covid-19 a’r cyfnodau clo yn amharu, nid oedd yn bosib dathlu’r 10. Roedd pennaeth newydd Ysgol Rhos Helyg, Efan Williams, yn meddwl fod hon yn amser perffaith i ddathlu bodolaeth ein hysgol unigryw ni yng nghanol Ceredigion.

Daeth yr ysgol i fodolaeth ar ôl uno ysgolion Lledrod a Bronant ac agor Ysgol Rhos y Wlad ac yna ei ffederaleiddio hi yn ffurfiol gydag ysgolion Llangeitho a Phenuwch i greu Ysgol Rhos Helyg. Caewyd safle Penuwch ar ôl cwta ddwy flynedd o fodolaeth yr ysgol, yn gadael yr ysgol ar ei wedd bresennol, sef un ysgol wedi ei rannu ar ddau safle, un yn Llangeitho a’r llall yn Rhos y Wlad-Bronant.

Ysgol ardal go iawn, felly, yw Ysgol Gynradd Rhos Helyg, yn gwasanaethu ardal eang yng nghanol Ceredigion, sef y pentrefi canlynol; Lledrod, Bronant, Blaenpennal, Tynreithin, Llangeitho, Bwlchllan, Penuwch a Bethania. Roedd ysgol yn wreiddiol ym mron pob un o’r pentrefi yma yn wreiddiol, felly rydyn ni yn eithriadol o falch o gael diwallu’r angen am addysg safonol o fewn y fro eang hon.

Dechreuwyd y noson gyda’r plant yn uno i ganu rhai caneuon. Cychwynnwyd gyda’r gân Canu Roc a Rôl ac yna Gwena, a diolch i Menna Rhys am hyfforddi’r plant ac am gyfeilio ar y noson. Aeth Efan Williams ati wedyn i groesawi bawb ac esbonio tipyn bach am yr achlysur cyn mynd ymlaen i gyflwyno dwy wobr sydd wedi ei ail-gyflwyno gan yr ysgol ar ôl saib o tua 20 mlynedd. Y gyntaf oedd Gwobr Merched y Wawr Bronant, sef gwobr i’r disgybl oedd wedi gwneud y mwyaf i hyrwyddo’r iaith Gymraeg dros y flwyddyn. Llongyfarchiadau gwresog i Caleb Jones am ennill y wobr. Yr ail wobr oedd Gwobr Goffa Alf Smith. Alf oedd trempyn fferm Taihirion, Bronant, un a wnaeth gymaint i hyrwyddo ac annog pobl ifanc y fro. Roedd y wobr yma yn cael ei gyflwyno i’r disgybl a wnaeth y mwyaf o gynnydd. Llongyfarchiadau mawr i Sky West am ennill Gwobr Goffa Alf Smith. Aeth y plant ymlaen wedi i ddiweddu’r rhan yma o’r noson trwy ganu Diolch a Titw Tomos Las.

Tro’r oedolion oedd mwynhau wedyn, ac aeth y noson ymlaen gyda phawb yn mwynhau adloniant ardderchog y band Newshan, bwyd blasus gan Halen A Pupur, a chwrw da Tafarn y Bont!

Dyma oedd noson gwerth chweil, enghraifft wych o gymuned gyfan yn dod at ei gilydd i gymdeithasu a chyd-gefnogi, ac yn brawf o holl-bwysigrwydd ysgol gynradd wledig yn ganolbwynt cymdeithas

Hir oes i Ysgol Rhos Helyg – Curiad calon cymuned cefn gwlad!

Dweud eich dweud