Cawsom noson lwyddiannus dros ben yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener 18 Hydref. Roedd hon yn noson gymdeithasol yng nghwmni Parti Camddwr a Bois y Brwyn, parti meibion arall sydd wedi dechrau yn yr ardal yn ddiweddar. Criw o fois ifanc yw Bois y Brwyn, sydd yn tynnu aelodau o Drefenter, Lledrod, Ponrhydfendigaid a Thregaron.
Roedd y dafarn dan ei sang. Prin fod cof am noson fwy prysur yn Nhafarn y Bont! Canodd y gynulleidfa ganeuon ysgafn o dan arweiniad Efan a gyda Menna Rhys ar y piano, a chafwyd perfformiadau gan Barti Camddwr a Bois y Brwyn, a’r unigryw John Glant, gyda diolch i Elisabeth James am gyfeilio fel arfer. Daeth y noson i derfyn gyda’r ddau barti yn ymuno i ganu fersiwn unigryw o Mi Ganaf Gân, gan Hogie Llandygai.
Roedd hon yn noson unigryw iawn oedd yn dwyn i gof nosweithiau tebyg oedd yn digwydd yn rheolaidd flynyddoedd yn ôl. Mae’n amlwg fod yn dal i fod awydd yn y gymuned am nosweithiau cerddorol a chymdeithasol fel hyn. Mae’n hyfryd profi cymaint o fwrlwm yn y fro.