Noson Agoriadol yng nghwmni Parti Mish Mash

MERCHED Y WAWR TREGARON

Delyth Rees
gan Delyth Rees
IMG-20241003-WA0002-1
IMG-20241003-WA0001

Cynhaliwyd Noson Agoriadol y gangen ar Nos Fercher, 2 Hydref yn y Neuadd Goffa. Croesawyd yr aelodau gan y Llywydd, Lisa Jones, a braf oedd croesawu Meirian Morgan yn aelod newydd. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu’r anthem gyda Catherine Hughes yn cyfeilio.

Cydymdeimlwyd ag aelodau oedd wedi colli anwyliaid a hefyd cofiwyd yn gynnes at bawb sy’n anhwylus ar hyn o bryd.

Estynnwyd croeso hefyd i Hazel Thomas, Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Ceredigion a Phenfro a braf hefyd oedd cael cwmni aelodau o gangen Llwynpiod.

Ar ôl trafod rhai materion aeth Lisa ymlaen i groesawu parti Mish Mash ynghyd â Menna Rhys eu harweinydd. Sefydlwyd y parti gan Menna sy’n cynnwys ei disgyblion a buont yn fuddugol yn Eisteddfod y Bont eleni. Cafwyd noson arbennig yn eu cwmni gydag aelodau’r parti yn cyflwyno’r eitemau yn eu tro. Buont yn cyflwyno eitemau amrywiol o safon uchel iawn gyda phawb ar eu gorau! Cafwyd eitem gan Triano ac roedd y datganiad o’r dair chwaer yn chwarae’r piano yn arbennig. ‘Does rhyfedd iddynt ddod i’r rownd gyn derfynol mewn cystadleuaeth ar Sianel BBC4. I orffen mwynhawyd medley o ganeuon Cymreig gyda’r gynulleidfa yn ymuno yn y canu.

Talwyd y diolchiadau am noson wefreiddiol gan Ann Morgan a chanmolwyd y merched am roi o’u gorau a chyflwyno perfformiadau safonol. Diolch hefyd i Menna am roi o’i hamser i’w hyfforddi ac am feithrin y dalent anhygoel sydd ganddynt. Dyma noson ragorol ar ddechrau tymor newydd. Diolchodd Ifana George am y gwahoddiad ar ran cangen Llwynpiod.

Enillwyd gwobrau’r raffl gan Ann Evans, Bet Jones, Margaret Jones a Roseanne Ebenezer.

Roedd y pwyllgor wedi paratoi paned a lluniaeth ysgafn a chafodd pawb gyfle i fwynhau a sgwrsio cyn troi am gartref! Croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno gyda’r gangen sy’n cyfarfod ar nos Fercher gyntaf y mis yn y Neuadd Goffa.

Dweud eich dweud