Nest yn ennill Y Llwyd o’r Bryn

Nest Jenkins o Ledrod yw enillydd y brif gystadleuaeth lefaru yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG-20240810-WA0012
IMG-20240810-WA0011
IMG-20240810-WA0009

Enillodd Nest Jenkins o Ledrod Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ddoe. Dyma brif gystadleuaeth lefaru’r Eisteddfod, i lefarwyr dros 21 oed – Rhuban Glas y byd llefaru.

Y dasg eleni oedd cyflwyno ‘Villanelle y Cymoedd’ gan Grahame Davies ynghyd â darn hunanddewisiad hyd at 6 munud. Dewisodd Nest ‘Stafell fy Haul’ gan Manon Rhys.

Y panel beirniad eleni oedd Daniel Evans (enillydd Y Llwyd o’r Bryn yn 1992), Carwyn John (enillydd yn 2004 ac yn 2011), Eleri Lewis Jones a Rhian Iorwerth.

Dywedodd Daniel Evans wrth draddodi’r feirniadaeth bod Nest yn arddangos “naturioldeb, hyder, llais clir. Roedd yn hollol gyfforddus ar lwyfan y Brifwyl. Roedd ei hamseru yn gelfydd.”

Llongyfarchiadau mawr Nest – mae’r ardal i gyd yn hynod falch ohonot ti!