Ar nos Lun 30 Ionawr, 2023 cynhaliwyd gwasanaeth plygain yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod. Roedd y gwasanaeth hwn yn dilyn patrwm traddodiadol y gwasanaethau plygain hynafol.
Gwn fod gwasanaeth oedd yn cael ei alw yn “blygain”, oherwydd yr amser cynnar o’r bore y cynhaliwyd y gwasanaeth, yn Eglwys St Mihangel, Lledrod tan tua’r flwyddyn 2019. Roedd hwn yn wasanaeth cynnar ar fore dydd Nadolig, oedd yn dilyn patrwm arferol gwasanaeth eglwysig. Rwyf innau yn cofio mynychu’r gwasanaeth yma mor gynnar â chwech o’r gloch ar fore dydd Nadolig a phrofi’r wefr o weld y wawr yn torri trwy ffenestr lliw arbennig yr eglwys. Roedd hyn yn creu awyrgylch arbennig i’r gwasanaeth ac yn gosod naws Nadoligaidd am weddill y diwrnod.
Addewais yn ystod y blygain yng nghapel Rhydlwyd, y bydden i’n edrych i mewn i hanes y blygain yn Lledrod a gweld a fedrwn i ddarganfod tystiolaeth am wasanaethau plygain traddodiadol, gyda charolwyr lleol yn codi i ganu carolau plygain un ar ôl y llall, sef y traddodiad a gynhaliwyd yn siroedd Maldwyn a Meirionydd. Felly rhaid oedd gwneud y gorau o adnoddau gwerthfawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ymchwilio.
Trwy bori yng nghylchgronau Cymru canfyddais dipyn o wybodaeth am wasanaethau plygain Lledrod. Yn wir, trwy ddarllen y cylchgrawn Cyfaill Deoniaeth Llanbadarn Fawr, cefais hyd i dystiolaeth o wasanaeth plygain yn Eglwys San Mihangel, Lledrod ar fore dydd Nadolig 1896. Yn ôl y cyhoeddiad, “canwyd carolau gyda hwyl i’w ryfeddu”. Am 6 y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth ac esboniwyd dipyn am y ffaith mai “gwasanaeth caniad y ceiliog” oedd y blygain. Mae’n amlwg felly mai gwasanaeth plygain yn dilyn y patrwm hynafol oedd hyn, fel y’i gwelir heddiw.
Roedd plygain yn 1900 ac 1901 hefyd, eto am chwech o’r gloch y bore. Yn ôl Cyfaill Deoniaeth Llanbadarn Fawr, cafwyd “plygain ragorol ar ddydd Nadolig”. Ond ymddengys fod y naws wedi newid hyd yn oed erbyn troad yr ugeinfed ganrif, ac o fewn cwta bum mlynedd roedd y traddodiad yn amlwg wedi pylu oherwydd “canwyd y carolau yn fendigedig gan y côr, o dan arweiniad Mr E. Jones”. Gyda dechrau sôn am gôr ac arweinydd, mae’n amlwg nad gwasanaeth plygain “go iawn” oedd hwn, er yn wasanaeth bendithiol, rwy’n siŵr.
Felly ymddengys fod y traddodiad wedi dechrau dirywio o droad yr Ugeinfed Ganrif ymlaen a bod yr arferiad o garolau teuluol a grwpiau o garolwyr lleol yn cymryd eu tro i gynnig carol plygain yn yr arddull draddodiadol yn dechrau dod i ben.
Mae’n amlwg fod hyn yn batrwm ar draws yr ardal oherwydd er i mi ganfod cyfeiriadau at blygeiniau hefyd yn Llangwyryfon, Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn, doedd dim sôn amdanynt, neu roedd y cyfeiriadau yn fwy tebyg i’r disgrifiad o blygain Lledrod yn 1901, ar ôl tua 1905. Testun o orfoledd, felly, yw nodi fod y blygain yn ei wedd draddodiadol wedi ail-sefydlu mewn dau o’r pentrefi yma erbyn hyn, sef Llanafan, ar nos Sul cynta’r adfent, a Lledrod, ar nos Lun ola mis Ionawr.
Estynnwn ni, drigolion plwyf Lledrod, groeso i Gymry ben baladr i ymuno â ni i fwynhau’r profiadau unigryw o wasanaeth plygain draddodiadol yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod am 6.30 ar nos Lun 29 Ionawr 2024. Hir oes i’r traddodiad yn ein bro.
Deuwch oll mewn cân a gweddi
Pawb yn llawen, i’w addoli,
Ef yw ein Gwaredwr tirion,
Ef a’n prynodd dan yr hoelion.
(Eos Gerwyn)