Daw ambell i gyhoeddiad, er nad yn gwbwl annisgwyl, fel ergyd o wn. Un o’r rhain yn sicr oedd cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys ar 30.10.24 yn cyflwyno newidiadau sylweddol i Dreth Etifeddiaeth yng nghyd-destun eiddo amaethyddol a busnesau. Gosodwyd nenfwd isel ar werth yr asedau bydd yn ddi-dreth gyda’r hyn sy’n weddill yn agored i’w drethu’n drwm.
Mae ardaloedd dalgylch y Barcud, fel y gweddill o’r Gymru wledig, yn cynnwys clytwaith bregus o amaethwyr a chrefftwyr o bob math. Brau yw’r edafedd sydd yn sicrhau bod y busnesau hyn yn broffidiol a chynaliadwy. Diffyg crebwyll ar ran y llywodraeth bresennol yw eu hystyried yn asedau sydd yn bodoli er mwyn osgoi treth. Eu diben yw i gynnal bywoliaeth ac, fel sy’n batrwm gyda nifer fawr o ffermydd Ceredigion, i’w trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Dywed y llywodraeth ei fod am sicrhau twf a ffyniant busnesau. Ffordd go ryfedd i gyrraedd y nod hwn yw i osod llyffethair ar fentergarwch drwy godi treth a fydd yn orfodol i’w dalu maes o law. Pa gymhelliad sydd i fuddsoddi yn y cyfryw fusnesau gan wybod bydd hyn yn golygu cynnydd yn eu gwerth ac, o’r herwydd, yn golygu mwy o dreth etifeddiaeth ? Ar ben hyn oll disgwylir i’r busnesau sy’n cyflogi gweithwyr i dalu mwy o yswiriant cenedlaethol. Dyma’r gwrthwyneb o hybu busnesau i ffynnu a chreu golud.
Cyflwynwyd y ddadl gan y llywodraeth bod y dreth newydd yn sicrhau na fydd buddsoddwyr ac unigolion o bell yn prynu ein tiroedd er mwyn osgoi treth etifeddiaeth. Does yna ddim cymhariaeth o gwbwl rhwng y rhain a’n cymdogion amaethyddol sy’n gweithio oriau hirfaith ac sy’n greiddiol i
fywyd economaidd a diwylliannol ein bröydd. Fel y dywedodd y Doctor Meredydd Evans wrthyf unwaith, y ffermydd yw’r unig fusnesau yng Nghymru ble mae’r Gymraeg wedi dal ei thir drwyddi draw.
Roedd yn ddigon anodd i redeg busnes cyn y cyhoeddiad hwn gyda phoendod meddwl yn pwyso’n drwm ar nifer o weithwyr, yn enwedig felly yn y byd amaeth. Un o’r cwpledi mwya’ teimladwy yn yr iaith Gymraeg yw hon:
“Mae’r esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi”
Mae’r geiriau yn mynd i wraidd yr unigrwydd dirdynnol a deimlir gan lawer wrth drin y tir ac heb weld na chwrdd â neb i drafod gofidiau. Cefais sgwrs yn ddiweddar gyda’r Hybarch Eileen Davies, un o sylfaenwyr Tir Dewi, mudiad sydd o gymorth anferth i nifer yn y Gymru wledig. Dywedodd ei bod hi’n unig yn derbyn tua phump o alwadau’n ddyddiol.
Pam felly creu’r fath broblem boenydiol? Yr unig gasgliad dwi’n dod iddo yw nad yw’r llywodraeth yn deall byd busnes ag amaeth ynghyd â’r dycnwch a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo. Yn ddiamau , mae’r Canghellor yn ddynes alluog iawn ond ei phrofiad gwaith yn gyfyngedig i Fanc Lloegr a stafelloedd creu polisïau aruchel. Yn ychwanegol, ac er trafodaethau gyda’r undebau amaeth, ni chafwyd unrhyw rybudd bod y fath newidiadau yn yr arfaeth cyn yr etholiad cyffredinol.
Yn wir, yn ôl Aled Jones Llywydd NFU Cymru, cafwyd addewid gan y prif weinidog, yng nghynhadledd yr undeb ym mis Chwefror eleni, na fyddai newid i’r dreth etifeddiaeth. Daw’r newidiadau i rym ar ddechrau Ebrill 2026. Cyfle, yn y cyfamser i ystyried y goblygiadau ac, efallai, i Mr. Starmer brynu sbectol newydd !
Peredur Evans