Oes gennych chi unrhyw gyndeidiau oedd yn gweithio yn niwydiant mwyngloddio metel Ceredigion? Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn partneru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo ar y Rhaglen Mwyngloddiau Metel ac yn cychwyn ar brosiect hanes llafar cyffrous i gasglu atgofion y rhai fu’n gweithio ym mwyngloddiau metel Ceredigion.
Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur wrth ei bodd i fod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo ar y Rhaglen Mwyngloddiau Metel, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ei nod yw gwella’r amgylchedd dŵr er budd pobl a bywyd gwyllt trwy sicrhau afonydd glanach. Mae’r Rhaglen wedi nodi dros fil o fwyngloddiau metel segur a llygredig ledled Cymru sy’n effeithio ar ein hafonydd, ac mae’n rhoi gwaith adfer priodol ar waith, megis rheoli dŵr wyneb a gwastraff a/neu gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau. Gall y gwaith hwn hefyd arwain at fanteision i iechyd a lles cymunedau lleol, economïau lleol a’r amgylchedd ehangach a threftadaeth ddiwylliannol.
Un o’r mwyngloddiau a aseswyd ac a glustnodwyd ar gyfer gwaith adfer yw mwynglawdd Abbey Consols, i’r gogledd-ddwyrain o Abaty Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid. Mae’n bosibl bod y mynachod Sistersaidd yn cloddio’r safle hwn yn yr Oesoedd Canol a chafodd ei weithio’n helaeth, er yn ysbeidiol, yn ystod y 19eg ganrif am blwm, arian a sinc. Rhan o rôl Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn y Rhaglen Mwyngloddiau Metel yw datblygu mwynglawdd Abbey Consols fel rhan o’n cynnig ymgysylltu ac addysgu ymwelwyr, gan ddylunio adnoddau ar gyfer ysgolion, cynnal sgyrsiau, ac arwain teithiau tywys i fyny i’r mwynglawdd ei hun.
Byddwn hefyd yn rhedeg prosiect hanes llafar yn ystod 2025-26, lle’r ydym yn gobeithio casglu hanesion y rhai a fu’n gweithio ym mwyngloddiau metel Ceredigion. Mae’r cyfrifiad, grantiau tir a chofnodion plwyf yn dangos bod pobl yn y sir yn gweithio yn y maes mwyngloddio mor bell yn ôl â’r 17eg ganrif, ac erbyn yr 1880au, Ceredigion oedd y pedwerydd cynhyrchydd plwm mwyaf ym Mhrydain, gan gyflogi cymaint â 10,000 o bobl allan o boblogaeth o tua 70,000.
Roedd y diwydiant mwyngloddio yn rhoi swyddi, mwy o arian a safonau bywyd gwell i bobl lleol. Daeth mwyngloddio hefyd â gweithwyr i mewn o fannau eraill a dechreuodd aneddiadau glowyr-ffermwyr ddod i’r amlwg, gan gartrefu pobl a oedd nid yn unig yn lowyr ond a oedd yn ffermio ymgynhaliol hefyd. Caniataodd tirfeddianwyr i lowyr adeiladu aneddiadau sgwatwyr, fel yr un yn Rhos Gelli Gron, er mwyn cynnal gweithlu diwydiannol lled-fedrus a chronfa o lafurwyr fferm mewn ardal lle mai ffermio a mwyngloddio oedd prif gynheiliaid yr economi.
Caeodd Abbey Consols ym 1913, ac nid yw’r dynion, a’r menywod a’r plant hefyd, a oedd yn gweithio yno, ac mewn mwyngloddiau metel eraill yng Ngheredigion bellach yn byw. Er bod mwyngloddiau eraill yn y sir wedi’u dogfennu a’u hymchwilio’n well, cymharol ychydig a wyddys am y mwynglawdd hwn na’r bobl a weithiai yno. Felly, byddem wrth ein bodd yn siarad â disgynyddion y teuluoedd mwyngloddio-ffermio hyn, yn yr ardal a thu hwnt, i gasglu unrhyw atgofion, straeon, llythyrau, dyddiaduron neu ffotograffau sydd wedi’u trosglwyddo iddynt.
Cysylltwch â ni drwy e-bost ar info@strataflorida.org.uk, neu ffoniwch 01974831760. Gallwch ddarllen mwy am y Rhaglen Mwyngloddiau Metel ar wefan CNC: Metal mine water pollution – Natural Resources Wales Citizen Space – Citizen Space
I ddarganfod mwy am waith Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur ewch i’n gwefan: https://www.strataflorida.org.uk/
Ymweliad partneriaid Rhaglen Mwyngloddiau Metel i safle segur mwynglawdd Abbey Consols, gwanwyn 2024