Darllen Difyr Ysgol Rhos Helyg

Cloi gweithgareddau’r cynllun am eleni

gan Efan Williams
3-1

Cynhaliwyd y drydedd sesiwn o gynllun Ysgol Gynradd Rhos Helyg, “Darllen Difyr – Give Welsh a Go!”, sef cyfres o wersi Cymraeg i rieni’r ysgol ac yn agored i aelodau o’r gymuned ehangach, ar safle Llangeitho ar nos Fawrth 25 Mehefin.

Cynllun yw hwn gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiad rhwng rhieni, plant ein hysgol, yr ysgol a’r gymuned, hybu a chodi hyder dysgwyr Cymraeg, a gyda’r pwyslais ar hybu darllen yn y cartref. Mae sesiynau darllen grŵp wedi eu datblygu yn yr ysgol hefyd, pan mae plant y ddau safle yn dod ynghyd ac yn cynnal grwpiau darllen mewn cydweithrediad â holl staff yr ysgol a gwirfoddolwyr o’r gymuned.

Roedd hon yn noson hwylus a hafaidd, a daeth criw bach ond eiddgar o bobl ynghyd i fynd ati i ddysgu tipyn bach o Gymraeg. Cafodd y rhieni eu rhoi mewn un grŵp, sef grŵp y dysgwyr newydd o dan arweiniad Dafydd Morse, Mandi Morse ac Ema Miles ac roedd grŵp trafodaeth o rieni mwy hyderus neu rugl. Roedd y grŵp yma’n trafod “Cerddoriaeth Cymraeg” o dan arweinyddiaeth Steff Rees o Fenter Iaith Cered, a phrif leisydd y grŵp Bwca.

Dyna gau pen y mwdwl ar gyfnod treialu’r cynllun Darllen Difyr-Give Welsh a Go! Mae wedi bod yn ddechrau da, mae pawb wedi cael budd mawr o’r sesiynau, ac yn eiddgar i gamu ymlaen wrth i’r cynllun ddatblygu. Gwyliwch y gofod, felly, am ddiweddariadau pellach wrth i’n cynllun ail-lansio a datblygu o fis Medi ymlaen.

Diolch o galon i’r gwirfoddolwyr i gyd a diolch i gymuned Ysgol Rhos Helyg am bob cefnogaeth. Brwydrwn i gynnal y cysylltiad hollol unigryw sydd yn bodoli rhwng Ysgol Rhos Helyg a’r ardal y mae hi’n ei chynrychioli.