Darllen Difyr Ysgol Rhos Helyg

Ail sesiwn y cynllun gwersi Cymraeg yn y gymuned

gan Efan Williams
Logo-Darllen-Difyr

Cynhaliwyd yr ail sesiwn o gynllun Ysgol Gynradd Rhos Helyg, “Darllen Difyr – Give Welsh a Go!”, sef cyfres o wersi Cymraeg i rieni’r ysgol ac yn agored i aelodau o’r gymuned ehangach, ar safle Bronant ar nos Fawrth 4 Mehefin.

Cynllun yw hwn gyda’r nôd o gryfhau’r cysylltiad rhwng rhieni, plant ein hysgol, yr ysgol a’r gymuned, hybu a chodi hyder dysgwyr Cymraeg, a gyda’r pwyslais ar hybu darllen yn y cartref. Mae sesiynau darllen grŵp wedi eu datblygu yn yr ysgol hefyd, pan mae plant y ddau safle yn dod ynghyd ac yn cynnal grwpiau darllen mewn cydweithrediad â holl staff yr ysgol a gwirfoddolwyr o’r gymuned.

Daeth criw o bobl ynghyd i fynd ati i ddysgu tipyn bach o Gymraeg. Yn gyntaf gwnaeth Efan Williams, pennaeth Ysgol Rhos Helyg siarad gyda phawb dros baned a dangos fideos Ruby Davies yr adroddwraig ail-iaith o Eisteddfod yr Urdd Meifod i gynnig tipyn o ysbrydoliaeth i’r dysgwyr!

Yna cafodd y rhieni eu rhoi mewn i ddau grŵp, sef grŵp y dysgwyr newydd o dan arweiniad Esyllt Môn Betts a grŵp trafodaeth o rieni mwy hyderus neu rugl. Roedd y grŵp yma’n trafod “sut i ysgogi plant i siarad am eu teimladau” o dan arweinyddiaeth Rhiannon Parry o gwmni Er dy Les Di a Laurie Hughes o Gyngor Sir Ceredigion.

Diolch am noson lwyddiannus arall a chyfle i gryfhau eto gysylltiad Ysgol Rhos Helyg a’i chymuned. Edrychwn ymlaen at Sesiwn 3, fydd yn digwydd ar safle Llangeitho ar nos Fawrth 25 Mehefin. Croeso i bawb!

Dweud eich dweud