Cynhaliwyd noson lansio Cynllun “Darllen Difyr – Give Welsh a Go” ym mwyty’r Hungry Ram, Penuwch ar nos Fawrth y 9fed o Ebrill.
Nod y cynllun yw cynnig rhaglen o weithgareddau a gwersi i ddisgyblion a rhieni Ysgol Rhos Helyg er mwyn gwella sgiliau darllen y disgyblion yn y Gymraeg, a chynyddu ymwybyddiaeth rhieni o werth sgiliau darllen yn Gymraeg. Cyfres o wersi Cymraeg wedi eu cynnal gan yr ysgol yn defnyddio gwirfoddolwyr gyda chefndir mewn dysgu Cymraeg i oedolion.
Roedd hon yn noson hynod hwyliog gyda thyrfa niferus wedi dod ynghyd. Dechreuwyd y noson gyda’r plant yn canu. Perfformiwyd hen gân Hogia Llandygai, Mi Ganaf Gân a chân darllen Cyw. Daeth pennaeth Ysgol Rhos Helyg, Mr Efan Williams ymlaen wedyn i roi tipyn o gefndir y prosiect ac ymhelaethu tipyn am y trefniadau.
Roeddwn yn ffodus dros ben wedyn i fwynhau cwmni Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth a roddodd gyflwyniad i’r gynulleidfa am bwysigrwydd y Gymraeg, a darllen yn y Gymraeg, gan ysbrydoli nifer yn y dyrfa i roi eu henwau ymlaen i ymuno â’r grwpiau gwersi Cymraeg. Cyflwynwyd wedyn wal fideo, gyda nifer o bobl adnabyddus a chyn ddisgyblion, oedd wedi paratoi fideo byr yn esbonio sut mae’r Gymraeg yn bwysig iddyn nhw.
Wedi egwyl fer i rieni gael cyfle i gofrestru am wersi, daeth y plant i fyny eto i ganu Titw Tomos Las, yna cafwyd sgwrs gan Nia Llywelyn, sef wyres T. Llew Jones, awdur y gân, a chyflwyniad am ei gwaith hi gyda’r cynllun Codi Hyder. Tynnwyd enwau’r plant wedyn ar gyfer ennill llyfrau darllen a gyfrannwyd gan siop Anrhegaron. Roedd y plant yn werthfawrogol iawn o’i lyfrau, a dynna gau pen y mwdwl ar noson fendigedig.
Diolch enfawr i holl blant, rhieni a chefnogwyr yr ysgol, diolch i Mererid Hopwood a Nia Llywelyn am eu cyfraniadau gwerthfawr, i Anrhegaron am y llyfrau, ac yn enwedig i fwyty’r Hungry Ram, Penuwch, am agor yn arbennig ar ein cyfer ac am adael i ni ddefnyddio eu lleoliad hyfryd. Mae’r Hungry Ram ar leoliad hen ysgol Penuwch, oedd yn un o’r ysgolion gwreiddiol ffederasiwn ysgol Rhos Helyg
Bydd sesiwn cyntaf Darllen Difyr – Give Welsh a Go yn digwydd Ysgol Rhos Helyg-safle Llangeitho ar nos Fawrth 7 fed o Fai.