Cynhaliwyd y sesiwn agoriadol o gynllun Ysgol Gynradd Rhos Helyg, “Darllen Difyr – Give Welsh a Go!”, sef cyfres o wersi Cymraeg i rieni’r ysgol ac yn agored i aelodau o’r gymuned ehangach, ar safle Llangeitho ar nos Fawrth 7 Mai.
Cynllun yw hwn gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiad rhwng rhieni, plant ein hysgol, yr ysgol a’r gymuned, hybu a chodi hyder dysgwyr Cymraeg, a gyda’r pwyslais ar hybu darllen yn y cartref. Mae sesiynau darllen grŵp wedi eu datblygu yn yr ysgol hefyd, pan mae plant y ddau safle yn dod ynghyd ac yn cynnal grwpiau darllen mewn cydweithrediad â holl staff yr ysgol a gwirfoddolwyr o’r gymuned.
Roedd hon yn noson hwylus a hwyliog dros ben, a daeth tyrfa dda o bobl ynghyd i fynd ati i ddysgu tipyn bach o Gymraeg. Yn gyntaf gwnaeth Efan Williams, pennaeth Ysgol Rhos Helyg siarad gyda phawb, esbonio pwrpas y cynllun a threfn y noson dros baned a dangos fideos wedi eu creu er mwyn cynnig tipyn o ysbrydoliaeth i’r dysgwyr.
Yna cafodd y rhieni eu rhoi mewn i dri grŵp, sef grŵp y dysgwyr newydd o dan arweiniad Dafydd Morse, grŵp canolig gyda Mandi Morse, ac roedd grŵp trafodaeth o rieni mwy hyderus neu rugl. Roedd y grŵp yma’n trafod “sut i ysgogi plant i ddarllen” o dan arweinyddiaeth yr athrawon bro Menna Jones ac Anwen Jones, ynghyd ag Emyr Lloyd o lyfrgell Ceredigion.
Siaradodd Emyr Lloyd gyda phawb wedyn i’w hatgoffa am y gwasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i aelodau o’r gymuned yn Llyfrgelloedd y Sir. Dyma gau pen y mwdwl ar noson lwyddiannus iawn. Edrychwn ymlaen at Sesiwn 2, fydd yn digwydd ar safle Ysgol Rhos y Wlad-Bronant ar nos Fawrth 4 Mehefin. Croeso i bawb!