Clwb Caron ar y Tourmalet!

Seiclwyr Caron yn dilyn y Tour de France

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James
TDF

Gwion James a Gareth Thomas with gerflyn Le Géant ar gopa’r Col du Tourmalet

Mae seiclwyr o Glwb Seiclo Caron ar daith ym mynyddoedd y Pyrenees, De Orllewin Ffrainc.

Maen nhw a’u cyfeillion o Glwb Seiclo Sarn Helen, Llambed yna i ddilyn y Tour De France ac yn arbennig y seiclwr proffesiynol o Aberystwyth Stevie Williams sy’n cystadlu yn ei ‘Le Tour’ cyntaf.

Mae Clwb Caron yn ôl yn dilyn y Tour eleni ar ôl saib o bum mlynedd.

“Mae’n brofiad chwerw-felys i fod yma am y tro cynta heb y diweddar Rhodri Davies, gan mae Rhodri oedd yn trefnu’r teithiau yn y gorffennol.” meddai Gwion James.

“Ein cartref am yr wythnos yw tref Luz Saint Sauveur, sydd wrth droed y mynydd enwog Col de Tourmalet. Yn ogystal mae nifer o ddringfeydd adnabyddus eraill fel y Col d’abisque, Yr Hautacam, Luz Ardiden ac eraill o fewn cyrraedd i’r dre a’r bwriad yw eu dringo i gyd!”

Mae’r Col du Tourmalet yn rhan o gymal 14 o’r Tour eleni, Dydd Sadwrn y 13eg o Orffennaf, felly cofiwch edrych allan am grysau Caron a Sarn Helen! Mae’n bosib hefyd i ddilyn helyntion eu taith ar dudalen Facebook- Clwb Seiclo Caron.