Clecs Caron – Rhydian Wilson

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Rhydian Wilson.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

I ddarllen y cyfweliad yn llawn, prynwch rifyn nesaf o bapur bro’r Barcud.

Enw: Rhydian Wilson

Cartref: Gamallt, Pentre, Tregaron

Teulu: Gwraig, Lorraine a dau o blant, Callum 25 a Hannah 21.

Gwaith: Rhedeg Cwmni Ieuenctid Cambria Youth Cyf. (I.C.Y) Gweithio gyda phobl ifanc; Gweithgareddau Awyr Agored; Cwricwlwm amgen a Gwobr Dug Caeredin.

Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron? Wedi fy magu yn Heol y Bannau, Bont ac yn byw yn Gamallt, Pentre, ers 1997. Magu teulu a rhedeg busnes yn Nhregaron.

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Prysur, siaradus, uniongyrchol.

Unrhyw hoff atgof plentyndod. Chwarae ar Ben y Bannau, fferm Dolebolion, Bont, gyda’m brodyr a ffrindiau.

Beth oedd swydd dy freuddwydion pan yn blentyn? I fod yn ‘Stuntman’, ar ôl gweld y ffilm Hooper.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf: Ar gyfres teledu ‘Adventure of a Lifetime’, tra’n ffilmio yn Nepal roedd mwy na jyst coes fi yn stico mas o’m shorts.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn. Mewn Llafur Mae Elw.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed? Paid dechre ysmygu!!!

Pwy yw dy arwyr? Dadcu, Ray Gravell, Colonel John Blashford Snell.

Y peth gorau am yr ardal hon? Y bobl.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Y Tywydd.

Beth yw dy ddiddordebau? Darllen, “DIY,” unrhyw weithgaredd awyr agored- dwi wedi trial llawer o wahanol weithgareddau, ogofa, paragliding, canwio, SUP, dringo ond dyddiau ‘ma, dwi’n beicio mynydd a cherdded rhan fwyaf.

Beth sy’n mynd ar dy nerfau? 4x4s a scramblers yn rhacso’r tir. Pobl anystyriol.

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario? Canolfan Hamdden newydd i’r ardal, pwll nofio a ‘ice rink’ 😊… i ddechrau…

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Dyfal Donc…

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd? Pan nes i ddadleoli fy mhen-lin yn ystod gêm o rygbi tra roeddwn yn y fyddin Hydref 1988.

Beth yw dy hoff air? Fiddlesticks! 😉

Disgrifia dy benwythnos delfrydol. Wâc neu daith ar feic am o leiaf 3 awr. Bwyd gyda’r teulu cyfan. Tywydd deche i gael dala lan gyda’r holl jobs mae Lorraine am i fi wneud.

Dy wyliau gorau? Dringo Via-Ferrata yn y Dolomites yn yr Eidal.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? “The Hitchhiker’s Guide to the Galaxy”

Beth sy’n dy wneud di’n unigryw? Dwi ddim yn cymryd pethau o ddifri… bob amser. Dwi’n berson penderfynol.

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti. Fi wedi marchogaeth Eliffant.

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? Rhedeg busnes fy hunan a theithio.

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi? Coffi
  2. Cerddoriaeth neu deledu? Teledu
  3. Tywod neu eira? Eira
  4. Ci neu gath? Ci
  5. Ffonio neu ebostio? Ffonio
  6. Brecwast neu ginio? Cino
  7. Canu neu ddawnsio? Dawnsio
  8. Bacwn neu sosej? Bacwn
  9. Slipers neu sanau? Slipers
  10. Awyren neu drên? Awyren

Dweud eich dweud