I ddarllen y cyfweliad yn llawn, prynwch rifyn nesaf o bapur bro’r Barcud.
Enw: Catherine Hughes
Cartref: Tregaron
Teulu: Geoff y gŵr, Fflur (merch) a’i gŵr Matthew, Meilyr (mab) a’i wraig Ffion ac wyrion Anni Grug, Tomos Ifan, Gwion Jac a Magi Fflur. Eleri (chwaer) a David (brawd)
Gwaith: Aros am bensiwn!
Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron?
Byw yma erioed – wedi bod yn ffodus i aros yn Nhregaron, mynyches y ddwy ysgol cyn dechrau gweithio ym mhrif Swyddfa Bost Aberystwyth ac yna Swyddfa Bost Tregaron. Cyn Gynghorydd Sir Ward Tregaron am 18 mlynedd ond yn Gynghorydd Cyngor Tref Tregaron ar hyn o bryd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymraes, Cyfeillgar, Cymwynasgar
Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Brecwast ar fore Nadolig – gan ein bod ni yn byw ar fferm odro gyda rownd lâth, dyna’r unig ddiwrnod byddem yn cael brecwast gyda’n gilydd fel teulu – roedd y llaeth wedi cael ei ddelifro ar Noswyl Nadolig.
Beth oedd swydd dy freuddwydion pan yn blentyn?
Bod yn athrawes.
Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Perfformio drama ‘Diwrnod i’r Brenin’ gyda C.Ff.I Tregaron yn neuadd Pontsian – Evan Derwen Tanrallt (fy nghŵr) yn trial tynnu fy mrat i ffwrdd ac mi gododd y sgert hefyd!
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
I fod yn gwrtais a pharchu pawb.
Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Am fod mwy mentrus.
Pwy yw dy arwyr?
Mrs Ethel Jones, cyn athrawes gerdd Ysgol Uwchradd Tregaron.
Mrs Eirioes Ayers, athrawes canu.
Fy rhieni.
Y peth gorau am yr ardal hon?
Fy mod i dal yn medru byw trwy gyfrwng fy mamiaith a bod fy mhlant yma i fagu’r genhedlaeth nesaf.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Bod ein cymdeithas a ffordd o fwy yn newid – angen i ni drysori a gwerthfawrogi beth sydd da ni cyn i ni ei golli.
Beth sy’n mynd ar dy nerfau?
Pobl Cymraeg eu hiaith yn siarad Saesneg gyda’u plant, gweld cyflwr ysbrydol yr ardal yn dirywio a diffyg parch.
Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?
Rhannu fe rhwng y teulu ar ôl rhoi i Gapel Bwlchgwynt, Eglwys Sant Caron, Neuadd Goffa Tregaron ac Ysgol Henry Richard.
Beth sy’n codi ofn arnat?
Y byd mae fy wyrion yn tyfu lan ynddo.
Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Gweld y dioddefaint yn Gaza.
Pryd es ti’n grac ddiwethaf?
Gwylio Mr Bates V The Post Office. Cyn dyddiau cyfrifiaduron, arferwn ymweld â Swyddfeydd i wneud archwiliadau – dyddiau papur a phensil!
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?
Peidiwch byth a rhoi eich hunan lawr.
Beth yw dy hoff air?
Heddwch – mae gwir angen hyn yn ein byd helbulus.
Beth yw dy ddiod arferol?
Rum & Black neu Gin & Tonic.
Dy wyliau gorau?
Tripiau Côr Caron – bythgofiadwy!
Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti.
Wedi bod yn chwarae’r organ yng Nghapel Bwlchgwynt ers 50 mlynedd.
Naill ai neu:
- Rygbi neu bêl-droed? Pêl-droed
- Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd
- Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
- Ffilm neu nofel? Nofel
- Creision neu siocled? Siocled
- Bara gwyn neu frown? Brown
- Tywydd oer neu dwym? Oer
- Codi’n gynnar neu aros lan yn hwyr? Aros lan yn hwyr
- Starter neu bwdin? Pwdin
- Ci neu gath? Ci
- Tu fewn neu thu fas? Tu fewn