Prynhawn Sul, 6 Hydref cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i ddathlu 250 mlynedd o hanes yr Achos yng Nghapel Bwlchgwynt a chroesawyd y gynulleidfa niferus gan y Parchg. Carwyn Arthur.
Cymerwyd rhan gan Ianto James, Osian Jones, Lois Davies, Gethin Bennett, Anni Grug Lewis Hughes a Mabli Dark.
Cyflwynwyd eitem gan blant yr ysgol Sul dan arweiniad Catherine Hughes yn canu penillion a gyfansoddwyd gan Alice Jones i ddathlu pen-blwydd y capel.
Roedd yn hyfryd gweld fideo byr o Mr. Wynne Melville Jones, Mrs. Elsbeth Edwards a’r Parchg. Roger Ellis Humphreys yn rhannu eu hatgofion o’u gwahanol gyfnodau ym Mwlchgwynt. Derbyniwyd cyfarchion oddi wrth Dr. Rhidian Griffiths ar ran yr Henaduriaeth.
Cyflwynwyd hanes yr Achos o 1774 gan Ifan Gruffydd. Cafwyd neges fendithiol gan y Gweinidog ac roedd yn wasanaeth i’w gofio i ddathlu’r garreg filltir arbennig yma.
Gwnaed y casgliad gan Dafydd Bennett a Cerith Evans a’r organyddes oedd Alice Jones. Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y diwrnod gan Gareth Jones.
I ddilyn croesawyd pawb i’r Festri i fwynhau paned a lluniaeth ysgafn a diolch i’r chwiorydd am eu cyfraniad gwerthfawr unwaith yn rhagor yn paratoi’r cyfan. Cafwyd cyfle i hel atgofion ac i weld yr arddangosfa a’r lluniau oedd yn ymddangos ar y sgrin. Diolch i Cyril Evans a David Bennett am drefnu’r cyfan. Torrwyd y gacen ddathlu gan Mr. Glyn Lewis.
Prynhawn hyfryd yn dathlu ac fel y dyfynnodd Ifan o eiriau testun pregeth y diweddar Barchg. Arthur Wynne Edwards hanner can mlynedd yn ôl – ‘Iesu Grist, ddoe, heddiw ac yn dragywydd’ Adnod addas iawn wrth i ni wynebu’r dyfodol yng Nghapel Bwlchgwynt.
Penillion Dathlu gan Alice Jones
Penblwydd hapus i gapel Bwlchgwynt
Penblwydd hapus yw ein cri,
Penblwydd hapus i gapel Bwlchgwynt
Dyna yw’n dymuniad ni.
Bu yma gyffro a chynnwrf mawr
Dros gyfnod o flynyddoedd maith,
Torfeydd yn addoli a moli Duw
Hyfryd a melys waith.
Dyro Dduw dy nerth i’r eglwys hon
I wir feddiannu cariad Crist,
A chlyma ni’n un, ynot Ti
Wrth gofio’r tlawd a’r trist.
Rhown ein calonnau yn y gwaith
Fel ein tadau yn y dyddiau gynt,
Heb gwyno am y gost a’r graith
Ond caru Iesu Grist.
Mae’n fraint i ninnau ieuenctid Bwlchgwynt
I ddathlu heddiw gyda chi,
Yn nhŷ yr Arglwydd – capel Bwlchgwynt
Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni.