Bore Sul, 21 Ebrill cynhaliwyd Gwasanaeth Teuluol yn y festri dan ofal y Bugail. Cyflwynwyd yr emynau gan Nel James, Gwen Evans, Lisa Jones a Gerald Morgan. Darllenwyd gan Ifan Lawlor ac offrymwyd gweddi gan Arthur Evans.
Cafwyd neges bwrpasol gan y Bugail yn sôn am y bicfforch, sef teclyn a ddefnyddir i gael y nodyn cywir i helpu bobl i ganu mewn harmoni gyda’i gilydd. Aeth ymlaen i egluro mor bwysig yw cadw ac ufuddhau i reolau da er mwyn ein galluogi i fyw mewn cytgord â’n gilydd.
Casglwyd gan Arthur ac Ifan a chyfeiliwyd gan Llinos James, Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb am gymryd rhan gan Gareth Jones.
Prynhawn dydd Iau bu Clwb yr Ysgol Sul yn ymweld gyda chartref Bryntirion. Mwynhawyd awr bleserus iawn yng nghwmni’r staff a’r preswylwyr. Cyflwynwyd eitemau gan y plant yn canu a dyna hyfryd oedd gweld gwên ar wyneb y preswylwyr! Diolch i’r staff am y croeso ac am baratoi lluniaeth ysgafn ar ein cyfer. Edrychir ymlaen at ymweld eto yn y dyfodol agos.
Edrychir ymlaen yn awr at y Gymanfa Ganu a gynhelir ym Mwlchgwynt, dydd Sul 28 Ebrill am 2.30 o’r gloch. Yr arweinydd fydd Mrs. Catherine Hughes.