Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan yn y Festri ddiwedd Medi gan grŵp Paned a Chlonc. Mwynhawyd prynhawn pleserus yn sgwrsio dros baned a chacennau blasus. Cafwyd tipyn o hwyl yn pendroni dros y cwis a drefnwyd gan Linda Holmwood a’r enillwyr oedd Sheila Jones a Julie Lloyd Davies. Diolch i Linda am drefnu ac am gyflwyno gwobrau i’r enillwyr. Diolch yn fawr i bawb am bob cefnogaeth ac erbyn hyn mae £400 wedi ei gyfrannu i Macmillan.