Agoriad Swyddogol Cylch Meithrin Tregaron

Diwrnod agored yn y Cylch, i ddathlu llwyddiannau, cwrdd â staff a gweld y cyfleusterau.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Daeth y diwrnod i agor ein Cylch Meithrin yn swyddogol a gwahodd y cyhoedd i ddod i weld y lleoliad wedi’i gwblhau. Er bod y plant a’r staff yn gweithio yno ers dros ddwy flynedd erbyn hyn, roedd hi’n braf gallu dangos y cyfleusterau gorffenedig i bawb.

Croesawyd pawb yno gan ein Cadeirydd, Emyr Lloyd, a thynnodd y plant i gyd ar y rhaff i agor y lle yn swyddogol. Diolch i’r plant am ganu dwy gân a diolch i Miss Gayle, Miss Kassey a Miss Anisa am eu gwaith yn paratoi. Uchafbwynt y prynhawn oedd ymlweliad Dewin ei hun ac roedd nifer yn edrych yn hynod wych gyda’r paent wyneb a’r tatŵs!

Cafwyd prynhawn hyfryd yn edmygu’r ardaloedd gwahanol yn y Cylch, a’r cyfleusterau arbennig sydd ar gael i’n plant ni yn Nhregaron a’r fro.

Mae angen diolch i nifer o bobl am wireddu’r cynlluniau yma: Grant Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru; Uned Gofal Plant Cyngor Ceredigion; Mudiad Meithrin; Dechrau’n Deg; y pwyllgorau dros y blynyddoedd diwethaf; y pwyllgor presennol ac wrth gwrs, staff arbennig y Cylch.

Gwahoddwyd swyddogion lleol yno, a diolch i’r canlynol am eu presenoldeb: Keith Evans (Cadeirydd y Cyngor),  Ifan Davies (Cynghorydd Lleol), Rhodri Evans (Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Henry Richard), Catherine Hughes (Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron). Derbyniwyd ymddiheuriadau wrth Ben Lake, Elin Jones a Dorian Pugh.

Mae presenoldeb y Cylch yn cynyddu, ac o ganlyniad, rydyn ni’n chwilio am staff ychwanegol. Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch ag Emyr Lloyd: emyr2@hotmail.com

Diolch i bawb am alw heibio ddoe.

Dweud eich dweud