Ti yw’r Pridd (Ann Fychan)
Mae sicrwydd dy gerddediad
A’r hyder sy’n dy gam,
Yn bloeddio maint dy gariad,
Yn dangos grym y fflam,
Y fflam sy’n cynnal, O mor glir
‘Rymlyniad rhyngot ti a’r tir.
Dy eiddo yw’r esgair,
Y weirglodd a’r waun,
Y grug a’r criafol,
Yr eithin a’r drain;
Ti biau’r rhostir
A thi biau’r ffridd,
Ti biau’r mawndir,
Ti yw y pridd.
Mae’r balchder yn dy osgo,
A’r c’nhesrwydd sy’n dy wên
Yn datgan na wnei ildio
‘R un erw o’r ddaear hen,
Y balchder ddywed, o mor glir
Fod uniad rhyngot ti a’r tir.
Does neb all ddwyn oddi arnat
Urddas rhyw oesau fu,
Anrhydedd dy gyndadau
O’th gwmpas ar bob tu,
Mae’r uniad rhyngoch yn un hir,
Yr uniad rhyngot ti a’r tir.
Ie, dyn ei filltir sgwâr oedd Vaughan Evans, er y gallai fod wedi teithio’r byd yn rhannu ei dalentau. Bu’n byw yn ardal Llwynpiod trwy ei fywyd a rhoddodd wasanaeth oes i’r capel hwnnw a’r ardal gyfan. Fe newidiodd ei fywyd ar un trip Ysgol Sul pan oedd yn ei arddegau. Roedd Ysgol Sul Blaenpennal ar y trip hwnnw hefyd ac yno y cyfarfu â Davina, ei gymar oes, and the rest, fel maen nhw’n dweud, is history!
Aeth Vaughan i Goleg Hyfforddi’r Drindod yng Nghaerfyrddin i hyfforddi fel athro, a dyna ddechrau ar wasanaeth diflino i’r sector addysg. Bu yn dysgu am gyfnod yn ardal Aberystwyth, cyn dechrau ar ei swydd fel pennaeth Ysgol Penuwch yn 26 mlwydd oed. Bu yn y swydd honno am y rhan fwyaf o’i yrfa ac mae ôl ei arweiniad i’w weld yn glir ar genedlaethau o bobl ifanc yr ardal honno. Pan oeddwn i yn cyflenwi yn Ysgol Penuwch yn ystod y blynyddoedd olaf cyn i’r ysgol gau ei drysau, roedd gwaddol gwasanaeth Vaughan i’r ysgol yn dal i’w weld a’i deimlo yno. Yn dilyn ei gyfnod ym Mhenuwch aeth yn bennaeth Canolfan Athrawon Felinfach a mwynhaodd gyfnod difyr a diddorol dros ben yng nghwmni staff y Ganolfan yno.
Soniais yn gynharach y gallai Vaughan fod wedi symud i ffwrdd a dilyn gyrfa mewn nifer o feysydd ac yn wir, daeth y cyfle iddo fod yn gyflwynydd rhaglen Siôn a Siân ar y teledu ar ddiwedd y chwedegau. Ond, fel dwedais, dyn ei filltir sgwâr oedd Vaughan, ac felly roedd rhaid teithio i Gaerdydd i ffilmio tair rhaglen ar y tro ar benwythnosau. Roedd hyn yn gyfnod cyffrous, wrth reswm, ond sicrhau ei fod ar gael i wasanaethu ei ardal leol oedd fwyaf pwysig i Vaughan.
Nid gwaith oedd popeth i Vaughan! Roedd gwyliau yn bwysig iawn iddo hefyd a dim ond un peth oedd ei angen ar gyfer hynny, y garafán! Gwnaeth yn siŵr bod y teulu cyfan yn cael profiadau bendigedig yn y garafán. Roedd yn aelod brwdfrydig iawn o Gymdeithas Carafanwyr Cymru ers dechrau’r gymdeithas honno ac roedd gwyliau teuluol yn golygu teithiau yn y garafán i bob math o leoliadau a mynychu pob math o wyliau ac Eisteddfodau ar draws Cymru. Wedi’r gwyliau roedd Vaughan yn mynd ati i baratoi cylchgrawn y “Nomad” gan ail-fyw a hel atgofion am wyliau’r hafau blaenorol. Gwnaeth y teulu gyfeillion ar hyd a lled y wlad a chasglu llond carafán o atgofion ardderchog.
Roedd Capel Llwynpiod yn agos iawn at ei galon. Roedd yn aelod ffyddlon ar hyd ei fywyd ac yn flaenor gweithgar yno. Roedd Vaughan yng nghanol popeth oedd yn digwydd yn yr achos, yn gyrddau diwylliannol, yn gwisiau llyfrau, y cawl Gŵyl Dewi, y barbeciw blynyddol a’r helfa drysor.
Roedd Vaughan yn un o sylfaenwyr ac yn aelod blaenllaw o gangen Tregaron o’r Hoelion Wyth. Roedd yn mwynhau’r cyfarfodydd misol yn y Talbot gydag eneidiau hoff cytûn, gan gymryd rhan yn yr eisteddfod, ac wrth gwrs y teithiau dirgel.
Gallaf dystio ei fod yn aelod ffyddlon iawn o Barti Camddwr. Doedd e ddim yn aelod gwreiddiol, roeddwn i’n chwilio am denor a doedd dim angen edrych ymhellach na Bro Afallon am un arbennig o’r rheini. Roedd wrth ei fodd yn ein mysg. Roedd yn arwain ein nosweithiau, yn adrodd storis, dweud jôcs, ac wrth gwrs yn iodlwr heb ei ail! Daeth yn gadeirydd y parti wedyn, gan gyflawni’r rôl honno yn ei ffordd urddasol arferol. Yr uchafbwynt rwy’n credu oedd y te ar ôl y cyngherddau, a chymharu cacs yr holl ardaloedd gwahanol! Mae’r cwpled yma gan Dic Jones yn croniclo profiad bois y parti yng nghwmni Vaughan, a’r atgof fydd gyda ni ohono am byth;
Mae alaw pan ddistawo
‘n mynnu canu yn y co’
Roedd bod ar lwyfan yn ail natur iddo gan ei fod yn adroddwr o fri ac yn enillydd cenedlaethol. Dysgodd ei fam genedlaethau o blant yr ardal i adrodd ac yntau yn eu plith.
Daliodd y diddordeb mewn darlledu gan iddo ymwneud â Radio Ceredigion yn y dyddiau cynnar a bu llawer o bobl leol ac enwogion yn westeion ar ei raglen ‘Ceidwad y Goleudy’.
Roedd hefyd yn gadeirydd papur bro Y Barcud, ac yn olygydd mewn sawl “stint” dros y blynyddoedd. Roedd cynnal papur bro lleol o safon yn bwysig iawn iddo, ac wrth gwrs, yn ffordd dda iawn o gael y newyddion lleol i gyd! Yn wir, mae rhan o’r casgliad heddiw yn mynd tuag at Y Barcud, ynghyd ag Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd Vaughan yn ffan mawr o chwaraeon. Rygbi a phêl-droed oedd yn mynd â’i fryd. Yn wir, roedd yn dipyn o bêl-droediwr yn ei ddydd. Roedd yn gyn-chwaraewr i Sêr Dewi a pharhaodd ei gefnogaeth a’i ddiddordeb yn y clwb ar hyd y blynyddoedd.
Fel pob dyn ei filltir sgwâr, roedd cadw Bro Afallon yn gymen yn bwysig iddo. Bu yn magu defaid a chobiau Cymreig am gyfnod. Roedd yn mwynhau adnewyddu hen geir a byddai i’w weld yn yr adran “vintage” mewn sioeau amaethyddol ar draws y fro. Mae sawl stori ddiddorol gan Non a Siwan am y ceir hynod hyn! Roedd yn mwynhau cefnogi Sioe Llangeitho, yn enwedig, ac roedd rhaid galw yn y Three Horseshoes am bryd o fwyd ar y ffordd gartref!
Dyn teulu oedd Vaughan uwchlaw popeth arall. Roedd yn ŵr cariadus i Davina, yn dad annwyl iawn i Non a Siwan ac yn dad-cu gofalus. Roedd wedi gwirioni’n llwyr gyda’r ŵyrion ac, wrth gwrs, yn rhoi cynnig ar bob technoleg fodern gyda nhw, yn gemau a gadgets, o’r sgwter i’r go-kart a’r hoverboard!
Dathlwn fywyd Vaughan heddiw. Dyn a roddodd oes o wasanaeth i’w gapel a’i ardal, ei wlad, a’i deulu a’i ffrindiau, a chael digon o hwyl ar hyd y daith.
Efan Williams