Pleser fu lansio ffilm ‘Pasio Fflam Pont Llanio’ gan Lleucu Meinir yn y Ganolfan, Llanddewi Brefi.
Daeth pobol o bob oedran ac o bell ac agos i dalu teyrnged i’r safle ddiwydiannol a fu’n gynhaliaeth i gymaint o deuluoedd.Ar y sgrin clywyd atgofion yr hen do ac ymateb yr ifanc o Ysgol Henry Richard.
Gwelwyd lluniau o hen ffatri Peter Davies; adeilad yr MMB fel yr oedd yn ei anrerth a’r adfail presennol; staff a’u gweitgareddau pêl droed a’r penillion cyfarch i gydweithwyr. Diddorol oedd clywed am effaith y streic a’r tawelwch anarferol ar ôl i’r ffatri a’r steshon gau.
Fyddai dim un noson am Pont Llanio yn llawn heb gyfeiriad at Morgan Dafis a Nanna Brynteifi wrth gwrs, er fod treigl amser yn eu gwthio hwythau i gilfachau’r cof.
Roedd y Ganolfan yn fwrlwm o siarad wrth i bawb rannu atgofion a gwrando ar straeon ei gilydd. Llawer yn gynweithwyr neu’n blant i rai a dreuliodd oes yn gweithio yn y ‘Ffatri La’th’.
Ychwanegiad hyfryd fu clywed caneuon gwledig gan Owen Shiers a sbardunodd sgwrsio pellach am atgofion cefn gwlad fel sopynno, toi helmi a photsian.
Noson i’w chofio.