Haf 1989 oedd hi, saith mlynedd ers sefydlu S4C a Chwmni Ffilmiau Penadur yn ffilmio cyfres ddrama yn yr ardal a’i phencadlys dros dro yn Neuadd Llanddewi Brefi.
Roedd cyffro mawr yn lleol gyda phlant ysgolion y dalgylch yn actio o flaen y camerâu a phobl yr ardal yn cynorthwyo. Cyfres ddrama chwe rhan oedd hon yn seiliedig ar gyfrol Ray Evans (Pencarreg gynt) sef Y Llyffant.
Y prif gymeriad oedd Esther a chwaraewyd gan ddwy ferch – Rebecca Kelly yn ddisgybl yn Ysgol Llanybydder fel Esther I a Sian Rowlands o bentref Silian fel Esther II.
Roedd y ddwy walltgoch yn cymryd eu tro i actio Esther – testun yr hunangofiant dychmygol am ferch o Bencarreg sy’n llawn syniadau am gariad a rhamant. Er hyn, doedd y gyfres ddim yn rhy sentimental. Roedd yna bethau digon cas yn digwydd. Roedd hi’n dangos bywyd fel yr oedd e a dangos pa mor galed oedd pethau.
Fel myfyriwr chweched ar y pryd, ces i ran fechan ym mhennod chwech a chael actio Tom Hughes y disgybl-athro. Ffilmiwyd golygfeydd tu fas yr ysgol ar safle hen ysgol Cellan a’r golygfeydd tu fewn yr ysgol yn hen Ysgol Llwynygroes.
Cofiaf fynd i hen dŷ yn Nhregaron i ffilmio cartref Tom Hughes a ffilmio Clychau’r Gog mewn coedwig ar dir Gogoian. Ffilmiwyd golygfeydd yn Llanddewi Brefi hefyd.
Dyma a ysgrifennodd Dylan Iorwerth yn Golwg:
Yn Llanddewi Brefi y mae’r ffilmio yn digwydd, un o’r ychydig ardaloedd sy’n ddigon hynafol yr olwg i edrych fel Llanybydder cyn y rhyfel. Ym myd teledu, mae popeth yn rhywbeth arall.
Ymwelodd David Lyn y cynhyrchydd a bron pob ysgol yn Nyffryn Teifi i ddod o hyd i blant i actio yn y gyfres. Yn ogystal â Rebecca a Sian, bu plant eraill yn actio yn y gyfres hefyd. Cafodd Aled Jones o Lanwnnen rhan y brawd a bu nifer o blant eraill yn actio fel ffrindiau Esther. Ochr yn ochr â’r plant roedd actorion profiadol S4C. Dyma restr (anghyflawn) ohonynt:
Esther I – Rebecca Kelly
Esther II – Sian Rowlands
Mari – Gillian Elisa
Tomos – Alun ap Brinley
Mamgu – Gret Jenkins
Tadcu – Glanffrwd James
Sam – Aled Myrddin Jones
Canon – Aled Williams
Lisi – Tina Thomas
Meri – Elvira Williams
Ned – Gordon Jones
Denzil – Rhun Williams
Mistir – W J Phillips
Trefor – Rhidian Tomos Davies
Sali – Lona Wyn Thomas
Gwen – Lisa Jones
Mam Trefor – Beti Jones
Wil Bwtshwr – Nefydd Roderick
Mr Jones – William Vaughan
Griffith John – Glyn Davies
Martha – Sue Jones Davies
Wil – Emlyn Jones
Sgt Davies – Geraint Lewis
Hamish Rees – Glan Davies
Mrs Rees – Glesni Wyn
Dic Bwtshwr – Rhidian Evans
Dai Bananas – DerecBrown
Sarah Bananas – Elsie Margaret
Henri Bananas – Dylan Pugh
Tomi – Gethin Howells
Defi Bananas – Elfyn Pugh
American Tailor – Gwyn Parry
Gof – Andrw Felindre
Tom Pantscawen – Ifan Jones
Bilo Geir – Gerald Morgan
Miss – Catrin Llwyd
Maud – Dwynwen Huws
Edith – Heini Jones
Miss Prydderch – Buddug Williams
Nyrs – Judith Humphreys
Mam Tom – Hannah Roberts
Ffarmwr – Dai Morgan
Yn bendant, roedd y gyfres yn cynrychioli darlun o fywyd yng ngorllewin Cymru ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Fe ailddarlledwyd y gyfres ar S4C ym 1993. A fyddai hi o ddiddordeb i wylwyr y sianel heddiw? Neu beth am ei chynnwys ar S4C Clic?
Tybed a oes gan eraill o ddarllenwyr Caron360 luniau ac atgofion o’r ffilmio a ddigwyddodd yn ein milltir sgwâr?