Ffeinal Cwpan Emrys Morgan

Tregaron Turfs yn cyrraedd y ffeinal yng Nghwpan Emrys Morgan a gynhaliwyd yng Nghaersws.

Ffion Medi
gan Ffion Medi
337776760_168262979459587

Y tim

339795287_1411546896275261

Y masgotiaid gyda’r tim

338891718_1259728608259945

Cefnogwyr wedi teithio o bell ac agos i gefnogi’r Turfs

338194732_763265771910072

Paul Davies – cyn chwaraewr Turfs o 1969 pan ail sefydlwyd y clwb!

337413856_175058405409601

Alun Owens – cyn chwaraewr Turfs o 1969 pan ail sefydlwyd y clwb!

337740686_1187756368604321

Dion Williams – mab y Capten, William Williams

Dydd Gwener y Groglith ddaeth, sef diwrnod y ffeinal fawr gyda dau lond bws yn gadael Tregaron am Gaersws yn llawn chwaraewyr a chefnogwyr. Ar ôl gêm gynderfynol gyffrous yn erbyn Montgomery Town yn Llanidloes dros wythnos yn ôl, roedd cryn edrych ymlaen at y ffeinal yn erbyn Abermaw (Barmouth). Y tro diwethaf i’r Turfs gyrraedd y ffeinal yn y gêm gwpan hon oedd un mlynedd ar bymtheg yn ôl lle coronwyd hwy yn bencampwyr. Braf oedd gweld dau o’r chwaraewyr hynny yn camu i’r cae eleni hefyd sef Gethin Jones a Barry Davies.

Yn arwain y tîm allan i’r cae ar ddiwrnod braf o wanwyn oedd y capten William Williams a hyfryd oedd gweld masgotiaid wrth ochr y chwaraewyr i gyd a môr o gefnogwyr yn eu gwyrdd yn cefnogi’r bechgyn.

Cafwyd hanner cyntaf cyffrous gyda’r Turfs yn chwarae pêl droed da, llawn arddeliad a nhw oedd, heb os nac oni bai y tîm gorau yn yr hanner hwnnw. Gethin Jones gafodd y cyfle gorau ond yn methu’r targed o drwch blewyn a derbyniodd Rhun Garner gerdyn melyn. Yna daeth Jac Hockenhull ymlaen cyn diwedd yr hanner cyntaf a dyma ni’n gweld newid yn y pes! Coesau ifanc yn cynnig rhywbeth newydd. Cafodd gwpwl o gyfleon ond dim lwc heddiw yn anffodus.

Newidiodd pethau yn ystod yr ail hanner gydag Abermaw yn sgorio o fewn y munudau cyntaf a dyma nhw wedyn yn dechrau rheoli’r gêm. Collodd y Turfs ychydig o fomentwm o ganlyniad i hyn. Cafwyd rhai newidiadau i’r tîm ond er gwaethaf cael egni newydd ar y cae cafwyd ail gôl gan y gwrthwynebwyr. Yna gydag ychydig funudau i fynd cyn y chwiban olaf, dyma’r Turfs yn cael y gôl hirddisgwyliedig gyda Josh Taylor yn sicrhau bod y bêl yn cyrraedd pen y rhwyd!

Colli o ddwy gôl i un oedd hanes y Turfs y tro hwn ond cafwyd diwrnod da er gwaetha’r canlyniad.