Yn ddiweddar cyflwynwyd Beibl i Ganolfan Treftadaeth Tregaron. Roedd yn cynnwys rhestr o enedigaethau, ac yn benodol claddedigaethau yn fynwent Capel Bwlchgwynt, ond dim gwybodaeth bellach.
Mae gan y Ganolfan restri o adysgrifau cofebion ym mynwentydd Capel Bwlchwynt, Eglwys Sant Caron a Chapel y Wesleiaid, felly aed ati i ymchwilio ymhellach. Cwblhawyd y cofrestri gan Gymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion, ac mae’n adnodd bendigedig i bawb sy’n chwilota am hanes teulu neu hanes lleol.
Llwyddwyd i ddod o hyd i’r rhai sydd wedi’i cofnodi yn y Beibl, ac yn dilyn chwilota drwy restr yr adysgrifau llwyddwyd i gadarnhau mae teulu Edwards Ffoshalog oeddynt. Yn ychwanegol cofnodwyd i’r beibl cael ei gyflwyno i Maggie Blodwen Evans, Dolfor House, Tregaron ym mis Ionawr 1950, ar ôl ei modryb Anti Nelli chwaer ei mam. Tybed os Nellie yw’r Eleanor sydd wedi’i rhestr ac a gladdwyd yn 1936 yn 84 mlwydd oed? Bydd nifer ohonoch yn siwr o gofio Maggie Dolfor yn Nhregaron?
Byddai’n dda cael gwybod faint o’r teulu yma a’u cysylltiadau sy’n dal yn byw yn yr ardal? Mae’r Beibl bellach ar gadw yn y Ganolfan, ac mae modd i bawb ei weld.
Mae’r Ganolfan wedi ail-agor ei ddrysau am dymor yr Haf, ac mae ar agor pob dydd Llun, Mercher a Gwener rhwng 11.00am – 3.00pm. Mynediad am ddim!
Am wybodaeth bellach, neu os am ymuno gyda’r tîm o wirfoddolwyr, neu i drefnu taith arbennig i grŵp, ffoniwch (01974) 298 977 neu 07799231999
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu