Dechrau da i’r flwyddyn i Glwb Hoci Caron

Mae ail hanner tymor Clwb Hoci Caron wedi dechrau mis yma wedi saib ers mis Rhagfyr. 

gan Fflur Lawlor
F443A88F-9C49-4D09-8389

Ei gem cyntaf oedd adref yn erbyn ail dîm Castell Newydd Emlyn.

Yn yr hanner cyntaf cafwyd sawl ymgais ar gôl gan y ddau dîm ac yn dilyn symudiad cyflym fe lwyddodd Caron i sgorio gôl gan Alaw James, gan ganiatáu iddynt arwain 1-0 ar yr egwyl.

Yn yr ail hanner fe aeth Emlyn â’r gêm i’w gwrthwynebwyr, gan chwilio’n daer am gêm gyfartal. Yn anffodus, roedd blaenwyr Caron yn hynod gryf ac fe lwyddodd y tîm cartref i sgorio 3 gôl yn yr ail hanner gan Alaw James, Megan Aur a Megan Dark gan arwain at ganlyniad o 4-0 ar y chwiban olaf.

Chwaraewraig y Gêm: Alaw James

Gem nesaf adref – Dydd Sul, Chwefror 19 am 11am ar Astro Llambed yn erbyn Tregŵyr