Nos Fercher, 4 Ionawr croesawyd yr aelodau gan Catherine Hughes, y Llywydd. Dechreuwyd yn ôl ein harfer yn canu’r anthem gyda Catherine yn cyfeilio. Dymunwyd yn dda i Catherine Williams ag Ann Jones oedd yn dathlu penblwyddi arbennig. Llongyfarchwyd Manon Wyn James a Mared Rand Jones oedd ar fin dechrau mewn swyddi newydd ac ymfalchïwn fel cangen yn llwyddiant y ddwy. Derbyniwyd enwau gogyfer â’r Te Prynhawn a drefnir gan Ranbarth Ceredigion ym Mhrifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sadwrn, 28 Ionawr.
Croesawyd ein gŵr gwadd am y noson sef John Jones o Ffair Rhos. Fel dywedodd Catherine prin fod angen ei gyflwyno gan iddo fod yn brif-athro yr Ysgol Gynradd yn Nhregaron am flynyddoedd lawer ac yn uchel iawn ei barch a braf oedd ei groesawu yn ôl i’r Neuadd Goffa. Mae’n berson prysur iawn yn y gymdeithas ac mae’n deyrngar iawn i’w fro. Roedd wedi trefnu cwis difyr a diddorol a chafwyd tipyn o hwyl yn dyfalu’r atebion. Roedd wedi paratoi amrywiaeth o gwestiynau ar fudiad Merched y Wawr, Prif-ddinasoedd y byd, Pobl a Lleoedd, Anagramau ayyb. Ar ddiwedd y nos tȋm ‘Bob Siort’ oedd yn fuddugol ac enillwyd y wobr raffl gan Iona Davies.
Talwyd y diolchiadau gan Elizabeth Jones gan ddiolch i John am noson ddiddorol, addysgiadol a hwyliog. Diolchwyd hefyd i aelodau Rhydyfawnog a Phwllswyddog o dan ofal Ann Evans am baratoi paned o de a bisgedi.