Sul y Cofio yn Nhregaron

Gwasanaeth Sul y Cofio hyfryd ac urddasol yn y Neuadd Goffa.

gan Fflur Lawlor
IMG_4052
IMG_4044
IMG_4045

Cynhalwyd gwasaenaeth Sul y Cofio yn Neuadd Goffa Tregaron am 10.45am ar 12fed o Dachwedd. Gosododwyd torchau pabi ar ran y gymuned gan Arwel Jones – Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron, Aled Lewis – Gorsaf Tregaron, Gwasanaeth Tân ac Achub a Jackie Barnsley – Ysbyty Tregaron.

Diolch i’r Cyng. Rhydian Wilson am arwain, Cyng. Catherine Hughes am gyfeilio a Cyng. Dewi Evans, Cyng. Rhian Hughes, Cyng. Owain Pugh, Anni Grug Lewis-Hughes, Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron a Chlwb Ysgol Sul Bwlchgwynt am gymryd rhan yn y gwasanaeth.

Diolch i Cyngor Tref Tregaron am drefnu’r gwasanaeth.