Enw: DAVID JOHN EDWARDS
Cartref: SUNNY SIDE, TREGRON
Teulu: UNIG BLENTYN I`R DIWEDDAR JOHN AC EUNICE EDWARDS
Gwaith: SAER COED AM 12 MLYNEDD, POSTMON AM 25 MLYNEDD AC WEDI YMDDEOL ERS 8 MLYNEDD
Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron? WEDI BYW YMA ERS BRON I 60 MLYNEDD
Disgrifia dy hun mewn tri gair. GONEST, CYFEILLGAR, HELPU.
Unrhyw hoff atgof plentyndod. TYFU FYNY MEWN SIOP BENTRE.
Yr eiliad o’r embaras mwyaf. ANGHOFIO GEIRIAU A GORFOD CAEL PROMPT MEWN CYSTADLEAETH DRAMA Y FFERMWYR IFANC.
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn. I DDANGOS PARCH TUAG AT BOBOL MEWN OED.
Pwy yw dy arwyr? STEVE DAVIES O FYD Y SNWCER.
Y peth gorau am yr ardal hon? EI BOD YN ARDAL GYFEILLGAR.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Y TORIADAU MAE CYNGOR CEREDIGION WEDI GWNEUD I DREGARON.
Beth yw dy ddiddordebau? CHWARE BOWLS, DILYN RASIO HARNESS, PYSGOTA.
Beth sy’n codi ofn arnat? LLYGOD FFYRNIG.
Pryd llefaist ti ddiwethaf? AMSER COLLI MAM.
Pryd es ti’n grac ddiwethaf? TUA MIS YN ÔL, CYN CHWARE YN FFEINAL BOWLS CEREDIGION.
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? CER I GOLEG I DDYSGU CREFFT.
Beth yw dy hoff air? DIOLCH.
Beth yw dy ddiod arferol? PEINT O WORTHINGHTON.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd? GAMMON, WY A CHIPS.
Beth sy’n dy wneud di’n unigryw? BAROD I HELPU PAWB.
Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? ENNILL CYSTADLEAITH BOWLS AC YNA CYNRYCHIOLI TREGARON A CEREDIGION YM MHENCAMPWRIAETHAU CYMRU YN LLANDRINDOD.
Naill ai neu:
- Te neu goffi? TE
- Y traeth neu’r mynyddoedd? Y MYNYDDOEDD
- Nadolig neu ben-blwydd? PEN-BLWYDD
- Ffilm neu nofel? FFILM
- Creision neu siocled? CREISION
Bydd y cyfweliad yn ei gyfanrwydd yn Rhifyn nesaf Y Barcud.
Yn ateb Clecs Caron y tro nesaf mae DAVID BENNETT.