Enw: David Bennett
Cartref: Arwel, Tregaron
Teulu: Nerys (Gwraig) Gethin a Dafydd (Meibion)
Gwaith: Cynnig gwasanaeth ysgythru yn siop Anrhegaron, Tregaron
Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron? Dyma fy nghartref
Disgrifia dy hun mewn tri gair. Cymwynasgar, hapus a theg
Unrhyw hoff atgof plentyndod. Carnifal Tregaron. Roedd Mam yn ein gorfodi ni i wisgo lan bob blwyddyn , ond erbyn heddiw mae’r atgofion yn rhai melys iawn ac rwy’n ddiolchgar iddi.
Yr eiliad o’r embaras mwyaf. Fy swydd gyntaf fel Blaenor newydd oedd derbyn corff i mewn i’r capel ac fe ganodd fy ffon symudol!
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn. Dangos parch a gonestrwydd a thrin pawb yr un fath ta beth yw eu cefndir. “Gwnewch i eraill fel y carech iddynt hwy wneud i chwi.”
Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed? Gwna yn siŵr dy fod yn gofyn digon o gwestiynau am gefndir teuluol ac eiddo dy dad a’th fam cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Y peth gorau am yr ardal hon? Y gymuned a’u phobl brwdfrydig a gweithgar sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac sy’n barod i godi arian at achosion da ac elusennau. Profwyd natur ein cymuned arbennig yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2022.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Dim banciau, chweched dosbarth, pwll nofio na llyfrgell.
Beth sy’n mynd ar dy nerfau? Pobl sydd yn barod i farnu ond sydd ddim yn cyfrannu at ddim eu hun.
Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario? Adeiladu pwll nofio i’r gymuned a mynd ar wyliau i wylio’r Llewod yn Awstralia yn 2025!
Beth sy’n codi ofn arnat? Pa mor rhwydd y mae cyffuriau ar gael yn ein trefydd
Pryd es ti’n grac ddiwethaf? Pan gwnaeth Leeds United (Fy hoff dim pêl-droed) disgyn o’r “Premiership” nol yn Mis Mai.
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Paid a newid dy gymeriad. (Cyngor Dai Morris, cynt o LLys y Coed)
Beth yw dy hoff air? Diolch
Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol? Hedy Navidi (tad Josh Navidi)
Beth yw dy ddiod arferol? Peint o lager
Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Stecen, taten pob, “onion rings” a saws pupur.
Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Mynd i weld “Abba Voyage” yn Llundain, profiad anhygoel
Beth sy’n dy wneud di’n unigryw? ‘Rwy’n Gymro er i mi gael fy ngeni yn Epsom. Ar y pryd roedd fy rhieni yn gweithio yno nôl yn y 60’au.
Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti. A’r ddechrau’r 80’au ‘roeddwn yn chwarae’r allweddellau mewn band o’r enw “Eco Broc”
Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? Fy uchelgais yw byw bywyd hapus gyda fy nheulu, a gweld gymaint o’r byd ag sy’n bosib.
Naill ai neu:
- Rygbi neu bêl-droed? Y ddau
- Y traeth neu’r mynyddoedd? Traeth
- Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
- Ffilm neu nofel? Ffilm
- Creision neu siocled? Creision
- Bara gwyn neu frown? Bara gwyn
- Tywydd oer neu dwym? Twym
- Codi’n gynnar neu aros lan yn hwyr? Y ddau!
Bydd y cyfweliad yn ei gyfanrwydd yn rhifyn nesaf Y Barcud.