Enw: Aled Dark
Cartref: Tregaron (yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid)
Teulu: Rhian, Gwenno, Megan a Mabli Jên
Gwaith: Dosbarthwr parseli
Disgrifia dy hun mewn tri gair: Cyfeillgar, cymwynasgar, hapus.
Hoff atgof plentyndod: Slejo lawr Penbannau yn yr eira gyda fy ffrindiau.
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn: Roedd Mamgu wastad yn dweud nad yw hi’n costi dim i ddweud diolch.
Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed? Tria’n galetach yn yr ysgol.
Beth yw’r ‘row’ mwyaf i ti gael? Dwi’n cofio cael row gyda fy athro hanes, ‘Pocer’ am wneud sbort ar ben fy ffrind (Heulyn Hambon) yn cael ei hela allan o’r dosbarth. Yn y diwedd, ges i fy hela mas i gadw cwmni iddo ar ôl pryd o dafod na wnaf i fyth anghofio.
Beth wyt ti’n bwyta i frecwast? Porej a phaned o goffi.
Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus? Yn y garej gyda Dadcu Bont.
Pwy yw dy arwyr? Dai Manley, asgellwr Pontypridd nôl yn y 90au a Colin McRae.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Pawb yn gwybod busnes pawb (er bod ‘da fi ddim byd i gwato)
Beth sy’n dy wneud yn ‘stressed?’ Gwaith yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig.
Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario? Pwll nofio ac astro turf i Dregaron. Safio lot o hôl ac hebrwn y merched o bob man.
Beth sy’n codi ofn arnat? Corynnod a Rhian!!
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Trin pobl fel hoffet ti gael dy drin.
Beth yw dy hoff air? Annibendod
Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol? Regan King
Eich gwyliau gorau? Mynd i Gernyw gyda’r teulu
Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Stranger Things
Hoff emoji: 🙈
Os am ddarllen y cyfweliad yn llawn, darllenwch Y Barcud mis Mawrth.
Clecs Caron tro nesaf… James Walton.